Tad-cu’n ysbrydoli prentis yn y dreftadaeth ddiwylliannol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Esta Lewis, sydd ar restr fer Doniau’r Dyfodol, gyda Rheolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Treftadaeth, Sara Maggs.

Mae amgueddfeydd llwyddiannus yn gwneud dysgu’n hwyl, ac mae Esta Lewis yn ymgorfforiad o hwyl.

Ysbrydolwyd Esta gan ei diweddar dad-cu ac mae’n credu’n angerddol mewn sicrhau bod hanes ar gael i bawb. Esta yw Prentis cyntaf Gwaith Treftadaeth Allanol Rhondda Cynon Taf ac mae’n creu ac yn cefnogi cyfleoedd i addysgu fel rhan o wasanaeth treftadaeth yr awdurdod.

Mae’n gwneud Prentisiaeth mewn Treftadaeth Ddiwylliannol gyda’r darparwr hyfforddiant Coleg Caerdydd ar Fro, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Doniau’r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliant blynyddol o ragoriaeth mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Bwriad y wobr newydd hon yw cydnabod prentis sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad eu cyflogwr.’

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Esta’n 22 oed, yn dod o Hirwaun ac wedi graddio mewn hanes o Brifysgol Abertawe ac, o fewn blwyddyn ar ôl dechrau yn y gwaith, mae’n rhedeg ac yn datblygu gweithdai ar gyfer Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Hi yw’r pwynt cyswllt cyntaf ac mae’n helpu i gynllunio ymweliadau ac yn eu gwerthuso wedyn.

Cafodd Esta hyfforddiant Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth a bu ei phrofiad hi ei hunan o ddyslecsia yn help mawr wrth sicrhau bod y cynllun yn ystyried pob dull o ddysgu. Wrth iddi ddatblygu gweithdai i ysgolion, cafwyd mwy o incwm i’r cynllun gan gyfrannu’n uniongyrchol at wneud Taith Pyllau Glo Cymru a’r gwasanaeth treftadaeth ehangach yn fwy cynaliadwy.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau’r Gwasanaethau Treftadaeth, Sara Maggs: “Oherwydd llwyddiant Esta gydag ymweliadau ysgolion a’r ymateb ffafriol sydd iddynt, rydym wedi ennill Gwobr Sandford am y tro cyntaf, sef cynllun sicrwydd ansawdd ar gyfer rhaglenni addysg treftadaeth.

“Oherwydd proffesiynoldeb a medrusrwydd Esta a’i brwdfrydedd i ddysgu a meithrin sgiliau a gwybodaeth, dylai fynd yn bell.”

Meddai Esta: “Cefais fy ysbrydoli gan fy niweddar dad-cu, Malcolm ‘Chick’ Chambers, glöwr yn y Rhondda, ac rwy wrth fy modd fy mod i’n gallu dod â hanes yr ardal yn fyw i blant ysgol. Mae mor bwysig eu bod yn dysgu am eu treftadaeth.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Esta a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —