Hoffter Dylan o anifeiliaid yn arwain at yrfa ddelfrydol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bu Dylan Thorpe o Gaerffili’n gweithio yn The Meadows Farm Village Retreat, Caerffili ers bron i flwyddyn. Ymunodd â nhw trwy Gynllun Kickstart Llywodraeth Cymru cyn symud ymlaen i wneud prentisiaeth gyda Haddon Training ac mae wedi symud ymlaen yn gyflym yn ei waith.

Dylan yn rhoi mwythau i lama

Dylan Thorpe sy’n brentis The Meadows Farm Village Retreat, Caerffili

Bu Dylan yn astudio ar gyfer ei gymwysterau Gofal Anifeiliaid Lefel 1 a 2 yn y coleg ond sylweddolodd nad oedd yn gyfforddus mewn ystafell ddosbarth. Ar ôl cael ei gymwysterau dechreuodd weithio yn The Meadows ac, erbyn hyn, mae’n dilyn prentisiaeth Gofal Anifeiliaid Lefel 3.

Mae gan Dylan ei hunan dri o geffylau ac roedd yn gwybod ei fod eisiau gweithio gydag anifeiliaid.

“Ro’n i’n gwybod erioed na fyddwn i’n hoffi swydd oedd yn golygu bod y tu mewn trwy’r dydd. Yn y coleg, dim ond tuag 20% o fy amser oedd allan yn gweithio gyda’r anifeiliaid” meddai Dylan.

Wrth ddilyn prentisiaeth, mae Dylan wedi cael cymaint mwy o brofiad ymarferol a, gan fod cynifer o wahanol fathau o anifeiliaid ar y fferm, mae bob amser yn dysgu rhywbeth newydd.

Mae peth o’r gwaith ymarferol yn dipyn o her i Dylan ond mae ei hyfforddwr Rowan Flindall-Shayle a’i reolwr yno bob amser i roi’r gefnogaeth ychwanegol y mae arno ei hangen.

“Mae bod allan ar y fferm yn gwneud y gwaith ymarferol ac yna wneud y gwaith cwrs yn fy amser fy hun wedi bod yn ffordd wych o astudio ar gyfer cymhwyster.”

“Ar ôl fy mhrentisiaeth, rwy’n hapus i ddal i wneud unrhyw beth gydag anifeiliaid – rwy wrth fy modd yn gweithio gyda nhw.”

Os hoffech wybod mwy am gymwysterau Gofal Anifeiliaid, a Cheffylau, yng Nghymru cysylltwch â Haddon Training Haddon Training.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —