Blwyddyn gofiadwy i Ben, y cigydd, sydd wedi ennill gwobr arall i brentisiaid
Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn gofiadwy i’r cigydd crefftus Ben Roberts sydd eisoes wedi ennill mwy nag un wobr.
O fewn ychydig wythnosau, mae Ben, 30 oed, o M. E. Evans Traditional Butchers, Owrtyn, wedi ennill dwy wobr Prentis y Flwyddyn.
Daeth y gyntaf yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru yng Nghaerdydd. Bellach, cafodd ei gydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol y darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Yn ogystal, bydd Ben yn cystadlu gyda Thîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn Her Cigyddion y Byd yn America ym mis Medi, daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills UK 2021 a chafodd ei benodi’n Llysgennad Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
Mae cwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Bwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru, wedi rhoi’r hyder a’r hunan-fri iddo ragori yn ei grefft.
Ers iddo gwblhau ei brentisiaeth, cafodd Ben ei ddyrchafu o fod yn rheolwr siop yn Owrtyn i reoli busnes cyfan M. E. Evans. Mae bellach yn symud ymlaen i wneud Prentisiaeth mewn Rheoli Busnes, gyda chynlluniau i barhau â’i daith ddysgu.
Dywedodd Ben: “Roedd safon y gystadleuaeth ar gyfer y wobr hon yn anhygoel a’r ddau arall oedd yn y rownd derfynol yn llawn haeddu ennill hefyd. Bydd yn cymryd amser i mi sylweddoli mai fi yw’r gorau allan o’r holl bobl yn y categori.
“Mae prentisiaethau’n rhoi’r cyfle i chi wthio’ch hun yn y gweithle. Mae’r potensial ar gyfer datblygu’ch gyrfa trwy brentisiaethau yn enfawr.
“Fy ngobaith rŵan ydi y gallaf ennill fy nhrydedd wobr eleni yn Her Cigyddion y Byd. Byddai hynny’n ddiweddglo gwych i’r flwyddyn.”
Y cystadleuwyr eraill yn rownd derfynol Prentis y Flwyddyn oedd Despoina Tsolakaki, 27, The Danish Bakery, Caerdydd a Kayla Millon, Whitbread – Premier Inn, Crossways, Caerffili sy’n byw ym Mhort Talbot.
Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori yn rhaglenni hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian mewn prentisiaethau, sgiliau a chyflogaeth. Cynhaliwyd y seremoni yng Ngwesty a Sba’r Metropole, Llandrindod ar 14 Mehefin.
Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn, Llanelli a Llanelwedd ac mae’n darparu prentisiaethau seiliedig ar waith ledled Cymru.
Cafodd Ben, enillwyr y gwobrau eraill a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu llongyfarch gan Arwyn Watkins OBE, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, am eu llwyddiant er gwaethaf y trafferthion a achoswyd gan y pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae’r gwobrau hyn yn dangos ymroddiad unigolion a chwmnïau i’r rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru,” meddai. “Mae Ben wedi dangos sut y gall prentisiaid symud ymlaen yn eu gyrfa.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
More News Articles
« Hoffter Dylan o anifeiliaid yn arwain at yrfa ddelfrydol — ‘Angen meithrin piblinellau talentau trwy roi cyfle cyfartal i brentisiaethau’ »