Hoelio sylw ar Ferched sy’n Brentisiaid Peirianwyr ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Coleg Sir Gâr yn falch o gael tynnu sylw at gamp dwy o’u prentisiaid, Taylor Hoskins a Zoe Evans, sy’n llwyddo yn eu hymgais i gael gyrfa fel peirianwyr.

Technegydd Offeryniaeth Drydanol gyda Wales & West Utilities yw Taylor. Mae yn ail flwyddyn ei phrentisiaeth peirianneg drydanol/electronig yng Ngholeg Sir Gâr, trwy Training Services Wales. Ar hyn o bryd, mae’n cwblhau ei diploma lefel 3 yn y coleg a’i NVQ yn y gweithle.

Taylor Hoskins

Cafodd Taylor ei denu at beirianneg i ddechrau am ei bod yn mwynhau datrys problemau ac mae’n cael boddhad o’r heriau y mae’n eu hwynebu fel prentis, yn y gwaith ac yn y coleg. Mae’n gobeithio parhau i astudio a chael swydd barhaol gyda Wales & West Utilities.

Technegydd Gosod gydag Aim Altitude, Dafen yw Zoe. Mae yn ei thrydedd flwyddyn, sef blwyddyn olaf ei phrentisiaeth mewn peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr ac mae’n gwneud ei NVQ yn y gweithle.

Zoe Evans

Roedd Zoe wedi bwriadu astudio bio-beirianneg ond newidiodd ei meddwl ar ôl symud o gwrs Lefel A i raglen lawn amser mewn peirianneg uwch yn y coleg. Yn ystod ei phrofiad gwaith, fel rhan o’r rhaglen uwch, cafodd Zoe gynnig prentisiaeth gydag Aim. Mae Zoe’n gobeithio parhau i astudio ac mae’n ystyried gwneud gradd-brentisiaeth trwy Goleg Sir Gâr.

Mae’r ddwy’n gobeithio parhau â’u hastudiaethau a chael swydd lawn amser gyda’u cyflogwyr presennol.

Cofiwch dynnu sylw at lwyddiant y merched sy’n dysgu gyda chi trwy anfon eich straeon calonogol neu drydar eich gweithgareddau gyda’r hashnod swyddogol #EachforEqual

Gallwch lawrlwytho adnoddau’r ymgyrch am ddim yma – www.internationalwomensday.com

Newyddion Coleg Sir Gâr

More News Articles

  —