Cyflogwyr a dysgwyr arobryn yn dathlu yng ngwobrau’r darparwr dysgu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Enillwyr y gwobrau Hyfforddiant Cambrian gyda rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins OBE.

Dathlodd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni hyfforddiant prentisiaeth, sgiliau a chyflogaeth a gyflwynir gan un o ddarparwyr dysgu yn y gwaith gorau Cymru, lwyddiant mewn seremoni wobrwyo flynyddol.

Cyflwynodd Hyfforddiant Cambrian ei Wobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.

Er mwyn cael eu henwebu am y gwobrau, rhaid i gyflogwyr a dysgwyr fod yn cymryd rhan mewn rhaglenni a gyflwynir ar gyfer Llywodraeth Cymru gan y cwmni, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli a Llanfair-ym-muallt.

Pwrpas y gwobrau, a gynhaliwyd am y pedwerydd tro, yw dathlu popeth sy’n wych am hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru. Dangosodd y rhai ar y rhestr fer derfynol y gronfa dalentau ac ystod y rhaglenni dysgu yn y gwaith sydd ar gael.

Enillydd Prentis Sylfaen y Flwyddyn oedd Bethany Morgan, 17 oed, sef prentis gwesty a lletygarwch sydd bellach yn gweithio yn ICC Wales, Casnewydd. Enillydd Prentis y Flwyddyn oedd y fam i bump Emma Hooper, 36 oed, sy’n brif stiward yn Beachley Barracks, Cas-gwent ar gyfer y Compass Group PLC – ESS Defence.

Casglodd Paul Whiffen, 38 oed, ac yn rheolwr ystafell surop Radnor Kills, Trefyclo, Wobr Uwch Brentis y Flwyddyn, wrth i Sasha Jones, 20 oed, deilydd agoriadau yn y Nags Head, Garthmyl gael ei henwi’n Unigolyn Eithriadol y Flwyddyn.

Yn yr adran Ymgymryd mewn Prentisiaethau gan Gyflogwyr, aeth y Wobr Micro Cyflogwr y Flwyddyn i Thomas Skip and Plant Hire Ltd, Caernarfon a chyflwynwyd y Wobr Cyflogwr Bach i Westy’r Harbourmaster, Aberaeron. Aeth y Wobr Cyflogwr Canolig ei Faint i Tiny Rebel, Tŷ-du, Casnewydd a chasglwyd y Wobr Cyflogwr Mawr gan Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Bydd enillwyr rhai categorïau’n cael cyfle i fynd ymlaen i Wobrau Prentisiaethau mawreddog Cymru ym mis Tachwedd, a gyd-drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y rhai ar restr fer derfynol am Brentis Sylfaen, Prentis ac Uwch Brentis y Flwyddyn oedd Daniel Carlo, 38 oed, ymgynghorydd ailgylchu ar gyfer Bryson Recycling, Conwy; Yasmin Dewse, 28 oed, cogydd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth; Daniel Allen, 26 oed, prif gogydd yn Clockworks (Marstons), Abertawe a Lorna Morris, 46 oed, perchennog Beyond Breakout, Y Drenewydd. Unigolyn Eithriadol y Flwyddyn, Chris Evans, 26 oed, gweithredwr gwastraff/ailgylchu yn Rhuthun i Gyngor Sir Ddinbych.

Ymhlith y rhai ar y rhestr fer derfynol ar gyfer gwobrau Ymgymryd â Phrentisiaethau Cyflogwyr Micro, Bach, Canolig a Mawr y Flwyddyn oedd: Happy Horse Retirement Home, Crai, Aberhonddu; A. J. Rees & Sons Ltd (Andrew Rees Butchers), Arberth a Parry & Evans Limited, Y Trallwng a Glannau Dyfrdwy.

“Mae ein gwobrau’n gwobrwyo unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori yn eu rhaglenni dysgu a hyfforddiant prentisiaethau a gyflwynwn ar ran Llywodraeth Cymru, meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Hyfforddiant Cambrian.

“Maen nhw’n dathlu cyflawniadau’r rhai sydd wedi dangos dull unigryw o droi at hyfforddiant a datblygiad prentisiaethau ac wedi dangos mentergarwch, arloesedd a chreadigedd.”

Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, fod y cwmni’n gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr gwych i gyflwyno prentisiaethau, sgiliau a rhaglenni hyfforddiant cyflogaeth i Lywodraeth Cymru ar draws Cymru gyfan.

“Os ydych chi’n ystyried cymryd prentis am y tro cyntaf, ni fyddwch yn edifarhau oherwydd bydd ef neu hi’n ychwanegu gwerth i’ch busnes,” ychwanegodd.

Datgelodd y ffigurau diweddaraf a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru mai Hyfforddiant Cambrian, sy’n 25 mlwydd oed eleni, yw’r darparwr dysgu gorau yng Nghymru am gyflwyno Uwch Brentisiaethau a’r pedwerydd gorau ar gyfer pob prentisiaeth.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Newyddion Hyfforddiant Cambrian

More News Articles

  —