Hyfforddeiaeth yn hwb i hyder Molly sydd â’i llygaid ar yrfa’n trin gwallt
Mae ei diddordeb mewn trin gwallt wedi arwain at swydd dri diwrnod yr wythnos i Molly Jones, 17 oed, yn yr Hello Gorgeous Hair Salon ym Mhen-arth ac mae’n gobeithio y bydd hynny’n datblygu’n Brentisiaeth Sylfaen.
Mae’r swydd ran amser yn gam mawr i Molly a fu’n dioddef o Syndrom Lludded Cronig a gorbryder. Oherwydd hynny, gadawodd addysg prif lif ym Mlwyddyn 8 pan na allai adael y tŷ heb ei mam.
Cafodd wersi y tu allan i’r ysgol ond ni lwyddodd i wneud ei arholiadau TGAU. Ar ôl iddi ymuno â Rhaglen ‘Tîm’ Ymddiriedolaeth y Tywysog trwy’r darparwr hyfforddiant People Business Wales, dechreuodd ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu, gan wneud ffrindiau a dod yn fwy hyderus.
Llwyddodd i gwblhau rhaglen 12 wythnos Tîm a symud ymlaen i Ymgysylltu Cyflogadwyedd lle llwyddod i gael Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Lefel 1 mewn Sgiliau TG.
Ar ôl cael hwb i’w hyder, mae Molly, o Ben-arth, yn gobeitho cael gyrfa’n trin gwallt. “Rwy wedi bod â diddordeb mawr mewn trin gwallt erioed ond doeddwn i ddim yn credu y cawn ni’r cyfle i wneud dim amdano. Felly, rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y swydd a’r cyfle i fod yn brentis yno,” meddai.
“Roedd cychwyn yn rhywle newydd yn gam mawr i mi ond rwy’n teimlo’n hyderus.”
I gydnabod ei datblygiad, mae Molly wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.
Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.
Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Fel rhan o’i Hyfforddeiaeth, mwynhaodd Molly leoliad gwaith yn Let Them See Cake yng Nghaerdydd. Bu hwnnw o gymorth mawr i hybu ei hyder ac ennyn ei diddordeb mewn pobi ac addurno cacennau.
“Rwy am ddal ati i wneud cacennau ar gyfer ffrindiau a pherthnasau – fel hobi yn hytrach na fel gyrfa,” meddai Molly.
Dywedodd Rheolwr Canolfan People Business Wales, Caroline Morris-Hills: “Dydi Molly ddim yn gadael i’w gorbryder ei rheoli bellach ac mae’n benderfynol o wneud ei gorau glas.”
Dywedodd Molly: “Rwy wedi goresgyn llawer o rwystrau. Mae fy Hyfforddeiaeth wedi fy helpu i fod y person ydw i heddiw. Rwy’n teimlo fy mod yn edrych mewn ffordd aeddfetach ar bethau a fyddai wedi fy ngwneud yn bryderus o’r blaen. ”
Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Molly a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.
“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”
More News Articles
« Gwaith barbwr yn trawsnewid bywyd Gavin ar ôl cyfnod anodd — Hyfforddeiaeth yn helpu Matty i adeiladu dyfodol newydd »