Sut y Gall Salonau yng Nghymru Ddefnyddio Prentisiaethau i Oresgyn Heriau Recriwtio

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ym marn perchnogion salonau, mae pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw yn ddau ffactor mawr sy’n amharu ar eu gallu i recriwtio staff newydd.

Oli Tracey, Level 3 Hairdressing Apprentice Slunks Salon, Cardiff

Oli Tracey, Prentis Trin Gwallt Lefel 3 o Salon Slunks, Caerdydd

Roedd y pandemig yn golygu bod rhaid i salonau gau eu drysau am fisoedd er mwyn cydymffurfio â’r deddfau ynghylch cadw pellter cymdeithasol. Ac yn awr, mae’r argyfwng costau byw yn golygu na all rhai salonau fforddio hyfforddi staff newydd, ac efallai bod gweithwyr presennol yn chwilio am swyddi sy’n talu’n well y tu allan i’r sector gwallt a harddwch.

Dywedodd Donna Bowen-Anderson, Rheolwr Cyfrifon Cwsmeriaid gydag ISA:
“Mae’r syniad mai cyflog bach a gaiff prentisiaid yn her wirioneddol i recriwtio staff salonau. Mae’n hollbwysig sicrhau bod dysgwyr yn deall y budd enfawr a all ddod o ddysgu sgil ym maes gwallt, harddwch a gwaith barbwr. Yn aml, mae’n arwain at ennill cyflogau uwch yn y dyfodol.”

Rydym yn ystyried yr heriau hyn ac yn esbonio sut y gall prentisiaethau helpu salonau i dyfu eu busnes.

1. Mae prentisiaethau’n opsiwn fforddiadwy i ddysgwyr
Gall chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag gwneud prentisiaethau fod yn un o’r camau cyntaf tuag at ehangu’r apêl i ddarpar ddysgwyr. Gall astudio yn y brifysgol fod yn gostus. Mae’n anodd i lawer o fyfyrwyr ganfod cydbwysedd rhwng astudio a gwaith i’w cynnal eu hunain ac, yn aml, mae’n anodd cael swydd addas ar ôl graddio.

Mae ISA Training (rhan o’r Educ8 Training Group) yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau sy’n cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Fel prif arbenigwr Cymru ym maes prentisiaethau gwallt, harddwch a gwaith barbwr, mae’r cyrsiau hyn yn darparu sgiliau ymarferol, gydol oes, a all fod yn sylfaen ar gyfer adeiladu gyrfa wirioneddol lwyddiannus.

Mae prentisiaethau’n gyfle i ddysgwyr gael gwaith ac ennill cyflog wrth ddysgu. Gall prentisiaid ddatblygu sgiliau newydd heb gymaint o ddyled ag a gysylltir gan amlaf â gradd brifysgol, gyda’r cyfle i symud ymlaen i swyddi â chyflog uwch.

2. Mae prentisiaethau’n hwb i salonau ddatblygu a recriwtio
Mae cymorth y tu allan i’r salon yn ffordd wych o sicrhau bod prentisiaid yn cael addysg gyflawn, gan gyfuno eu profiad ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol.

Mae’r cymwysterau a ddarperir gan ISA Training yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr sydd â chyfoeth o brofiad, sy’n weithgar yn y diwydiant ac sy’n gyfarwydd â’r tueddiadau a’r technegau diweddaraf ym maes gwallt a harddwch. Maent yn ymroi i gefnogi dysgwyr ym mhob agwedd ar eu hastudiaethau, gan helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau sydd ar berchnogion salonau.

Gall fod yn her canfod ymgeiswyr sydd â’r sgiliau cywir – technegol, creadigol a gwasanaethau cwsmeriaid. Gan fod ISA’n gwybod cymaint am y sector, gall gefnogi’r gwaith o recriwtio prentisiaid trwy helpu i hysbysebu swyddi ar gyfer prentisiaid. Maent hefyd yn helpu cyflogwyr i gael cyllid trwy’r Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr sydd gan Lywodraeth Cymru, gan gefnogi dysgwyr ag anabledd i gael gwaith.

Yn ogystal â’r cymorth y gall ISA ei roi i salonau, dywedodd Donna Bowen-Anderson, “Mae angen i berchnogion salonau ymdrechu i chwilio am brentisiaid, ystyried sut a ble maent yn ymgysylltu â staff posibl a mynd ati’n angerddol i hyrwyddo’u busnes a’r diwydiant.
Mae’n bwysig iawn codi llais, nid yn unig am y sgiliau technegol ond am y sgiliau bywyd gwerthfawr fel gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau a gynigir gan brentisiaethau.”

3. Gall prentisiaethau helpu i gau bylchau sgiliau
Trwy gyflogi prentis, yn ogystal â meithrin a datblygu talentau newydd, mae perchnogion salonau’n gallu ymateb os oes bylchau sgiliau yn eu salon.

Caiff prentisiaid ISA eu hannog i astudio gwaith barbwr yn ogystal â thrin gwallt er mwyn ehangu eu cyfleoedd ac apelio at ragor o gwsmeriaid. Gall hyn roi mantais i salonau dros eu cystadleuwyr a gwella’u henw da, gan roi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau a chael hyfforddiant mewn meysydd eraill.

Dywedodd Oli Tracey, Prentis Trin Gwallt Lefel 3 a Llysgennad ISA o salon Slunks yng Nghaerdydd:
“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi’r wybodaeth a’r hyder i mi fynd allan i fyd gwallt a gwneud yn wych! Rwy wedi cael cefnogaeth anhygoel, nid yn unig gan fy hyfforddwr yn ISA ond hefyd gan holl gymuned a sefydliad ISA. Mae’r cyfleoedd a gefais trwy gydol fy mhrentisiaeth yn fythgofiadwy.”

Cewch wybod mwy am y cymwysterau a gynigir gan ISA Training a pha gymorth y gallant ei roi i’ch salon.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —