Itec yn ymuno â’r 5 cyflogwyr gorau yn y DU gan ennill wobr Platinwm ‘Buddsoddwyr mewn Pobol’

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Itec Sgiliau a Chyflogaeth wedi ennill statws Platinwm gan ‘Fuddsoddwyr mewn Pobol.’ gan roi’r cwmni ymysg y 5 sefydliad gorau yn y DU am gwmniau efo 50-249 o weithwyr.

Dyma’r lefel uchaf o achrediad a wobrwyd gan ‘Fuddsoddwyr mewn Pobol’ – ond ganran fach o sefydliadau sy’n cael yr anrhydedd yma – ac mae’n arddangos ein cymdeithas sy’n rhoi pobol yn gyntaf, ein ymroddiad i ragoriaeth, a gwaith ardderchog pob person a weithiwyd yn Itec.

“Dwi’n falch iawn dros ein busnes wrth iddo gael ei adnabod gan ‘Fuddsoddwyr mewn Pobol’ fel sefydliad Platinwm”, dwedai Ceri Murphy, Cyfarwyddwr Rheoledig. “Mae hwn yn arddangos ein ymroddiad i fod yn lle grêt i fod yn weithiwr-berchennog – yn siâpo ein busnes, darparu rhagoriaeth a rhannu yn ein llwyddiant.”

Dros y 40 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi adeiladu ein busnes yn seliedig ar bobol – dysgwyr a staff. Cafodd ein werthoedd eu hadnewyddu ar y cyd, ac mae nhw’n ymddangos yng ngwreiddiau pob dim rydym yn ei wneud. O sut yr ydym yn cydweithio i sut mae’r tîm yn helpu i ddatblygu gyrfaoedd.

investors-in-people-platinum banner

Rydym yn barhau i fuddsoddi mewn dysgu a datblygu ar bob lefel, gan helpu unigolion i dyfu’n broffesiynnol wrth hefyd cryfhau y busnes ar y cyfan.

Mae iechyd meddwl a lles cyffredinol yn bwysig iawn i Itec – maent yn blaenoriaethau.

Mae mentrau fel ein cylchlythyr lles, swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ac ein marc ansawdd aur wrth yr Ajuda Foundation yn arddangos ein bod ni’n cymryd edrych ar ôl ein gweithwyr o ddifri.

Rydym hefyd yn falch i gael ein hadnabod o ran ein diwylliant cynwysedigl gyda achredydau wrth Stonewall, Cynnig Cymraeg a’r cynllun Arweinydd Hyder Anabledd Llywodraeth Cymru.

Yn ein arolwg mwyaf ddiweddar gan ‘Fuddsoddwyr mewn Pobol’, dwedodd 96% o weithwyr ei bod nhw’n ymroddedig i lwyddiant Itec.

Mae’r canlyniadau yma yn rhagori dros ddisgwyliadau rhyngwladol – ac maent yn adlewyrchu’r awyrgylch rydym wedi helpu i adeiladu gyda’n gilydd: lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol, yn gyfrannu ac yn llwyddo.

Itec Skills and Employment

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —