Manteision Prentisiaethau i Gyflogwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae prentisiaethau yn ffordd hynod effeithiol, sydd wedi hen ennill ei phlwyf, o recriwtio a hyfforddi staff. Trwy gyflwyno rhaglen brentisiaethau i’ch sefydliad, rydych nid yn unig yn helpu staff i ddatblygu eu gyrfa, ond rydych hefyd yn gwneud penderfyniad busnes doeth a fydd yn gwneud lles i’ch tîm a’ch elw.
Gall prentisiaethau ddod â llu o fanteision i uwch-arweinwyr a gweithwyr presennol a gall hyfforddi prentisiaid roi hwb ariannol i’r busnes.

Yihya Sirhan Assessor and Programme Mentor, Itec Skills & Employment

Yihya Sirhan, Asesydd a Mentor Rhaglenni,
Itec Skills & Employment

Y ffigurau

Gwnaed llawer o ymchwil i effaith prentisiaethau yn ddiweddar.

  • Yn ôl 98% o gyflogwyr sy’n cyflogi prentisiaid ar hyn o bryd, mae hynny’n dod â manteision ychwanegol i’w busnes, yn cynnwys taclo prinder sgiliau a rhoi gwerth am arian.
  • Dywed 86% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau perthnasol ar gyfer eu sefydliad.
  • Dywed 74% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella ansawdd eu gwasanaeth a’u cynnyrch.
  • Dywed 78% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i fod yn fwy cynhyrchiol.

Y manteision

Datblygu gweithlu brwd a chymwys
Mae cyflogi prentis yn ffordd wych o ddatblygu gweithlu brwd, medrus a chymwys ac o feithrin tîm y gall y busnes ddibynnu arno i baratoi ar gyfer datblygiadau neu newidiadau y bydd angen eu gwneud yn y dyfodol.

Gyda phrentisiaethau, gall unigolion ymateb i anghenion, gwerthoedd a diwylliant eich busnes o’r dechrau’n deg.

Hyfforddiant penodol
Mae busnesau bob amser yn awyddus i ddatblygu ffyrdd newydd, gwell o weithio, ac i gyflwyno syniadau newydd ffres. Gan fod prentisiaethau’n hyblyg, gall busnesau gyflogi unigolion dawnus ac yna addasu eu hyfforddiant yn unol â’u hanghenion penodol eu hunain.

Yn ystod y rhaglen brentisiaethau, mae unigolion wrthi’n barhaus yn dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd sy’n benodol i’w swyddi ac mae’r sgiliau a’r wybodaeth hynny’n cynnig ffyrdd newydd o weithio a mwy o gyfle i dyfu.

Taclo prinder sgiliau
Mae llawer o sectorau a diwydiannau’n dioddef o brinder sgiliau. Mae prentisiaethau’n ateb gwych sy’n cyfoethogi’r busnes ac yn galluogi cyflogwyr i feithrin arbenigwyr y dyfodol o’r dechrau’n deg. Gellir cael llwybrau prentisiaethau sy’n addas ar gyfer pob math o fusnes a phob lefel sgiliau, a gellir eu haddasu i anghenion penodol y busnes.

Mae cyflogwyr yn defnyddio’r rhaglen brentisiaethau i fynd i’r afael â phrinder sgiliau naill ai drwy ddenu doniau newydd neu drwy gynyddu sgiliau gweithwyr presennol gan ddewis prentisiaeth ar y safon gywir a’r darparwr hyfforddiant cywir ar gyfer anghenion penodol eu busnes.

Hybu cynhyrchiant
Yn ôl ymchwil y Llywodraeth, dywed 78% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i fod yn fwy cynhyrchiol.

Cyn gynted ag y bydd eich prentisiaid wedi cael eu traed danynt yn y busnes, byddant yn gallu helpu’ch busnes i fod yn gynhyrchiol a chefnogi’r tîm. Wrth gael prentisiaid yn y tîm gall eich tîm a’r busnes fod yn fwy cynhyrchiol.

Cost-effeithiol
Hyd yn oed os gallwch ddod o hyd i rywun sydd â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer eich tîm, gall cyflogi arbenigwr profiadol fod yn gostus.

Yn ogystal ag arbed costau recriwtio i’ch busnes, gall darparwyr hyfforddiant fod o gymorth i’r broses recriwtio trwy’ch helpu i ganfod yr ymgeisydd delfrydol.

Yihya Sirhan
Asesydd a Mentor Rhaglenni, Itec Skills & Employment

ITEC Skills and Employment

More News Articles

  —