Prentis Itec yn Profi Nad Oes Diwedd i Gynnydd Pan Fo Gennych Sglerosis Ymledol
English | Cymraeg
Mae Lauren Edwards wedi adeiladu gyrfa wedi’i diffinio gan gynnydd, twf mewn hyder ac angerdd ar gyfer rheolaeth lletygarwch. Roedd hi’n gweithio i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl pan gychwynnodd hi ei siwrne dysgu yn gwneud prentisiaeth Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lefel 3. Ers hynny mae popeth wedi newid er gwell.
Barod am Gynnydd
Ers cwblhau Lefel 3, mae Lauren wedi cael ei hyrwyddo dwy waith, gan symud o Oruchwyliwr i Reolwr Cynorthwyol y Clwb. Roedd parhau i wneud Lefel 5 yn teimlo’n naturiol iddi hi:
“Mae’na fwy i wneud, felly pam lai gwneud mwy?”
Pan mae gan Lauren gôl i weithio tuag ati mae hi’n ffynnu. Mae pob cymhwyster wedi agor drysau newydd, gyda’r strwythur a heriau mae hi’n mwynhau.
Pam Itec?
Wnaeth Lauren dewis i barhau gydag Itec oherwydd y gefnogaeth gyson a chafodd hi trwy gydol ei siwrne. Hyd yn oed pan wnaeth ei aseswyr newid, roedd ei phrofiad dal yn un positif:
“Mae pawb wedi bod yn hyfryd ac yn gefnogol. Os roeddwn i angen un rhywbeth, roedden nhw ar ochr arall y ffôn.”
Rhoddodd y sicrwydd yma’r hyder iddi hi fedru dyfalbarhau gan wybod bod ganddi hi bobl yn ei chornel oedd eisiau hi llwyddo.
Twf mewn Cyfrifoldebau ac Arweinyddiaeth
Mae cynyddu i ddysgu lefel uwch wedi trawsnewid swydd Lauren. Rŵan mae hi’n gyfrifol am nifer o dasgau gweinyddol tu ôl i’r llen ac mae ganddi hi ddealltwriaeth well o sut mae’r busnes yn gweithio.
Mae hi’n disgrifio Lefel 5 fel y pwynt lle wnaeth hi dechrau dod i arfer gydag arweinyddiaeth:
“Mae’n llawer mwy i wneud gydag arwain na jyst gweithio.”
Roedd cymryd mwy o gyfrifoldeb wedi helpu hi i ddatblygu ei thîm, cefnogi cydweithwyr, a chyfrannu’n strategol i’r clwb.
Hyder a Chyfeiriad Newydd
Cafodd siwrne prentisiaeth Lauren effaith mawr ar ei hyder. Wnaeth tasgau’r cymhwyster annog hi i fyfyrio, rhywbeth a wnaeth grymuso hi mewn ffordd annisgwyl:
“Rydych chi’n cwestiynu eich hunan, ond mae ysgrifennu pethau i lawr yn gwneud chi sylweddoli bod chi yn gwybod beth rydych chi’n gwneud.”
Adeg sy’n sefyll allan i Lauren ydy pan oedd hi’n diweddaru ei CV ar gyfer y Swydd Rheolwr Cynorthwyol. Roedd cael darllen trwy bopeth roedd hi wedi gwneud, wedi gwneud popeth gwneud synnwyr:
“Sylweddolais dwi wedi gwneud yn hynod o dda.”
Rŵan mae ei hyder yn tyfu blwyddyn ar ôl flwyddyn, gan siapio synnwyr clir o gyfeiriad a balchder yn ei gwaith.
Byw gyda Sglerosis Ymledol (SY)
Mae Lauren yn byw gyda SY, ond mae hi’n gwrthod gadael o gymryd dros i fywyd. Er enghraifft, mae hi’n cadw’n heini, gosod goliau, ac yn defnyddio ei phrentisiaeth fel ffocws positif:
“Mae’n neis gwybod gallaf ddyfalbarhau beth bynnag sy’n digwydd yn y cefndir.”
Mae ei chydweithwyr yn gefnogol, ac mae hi hyd yn oed wedi annog pobl eraill i gychwyn prentisiaeth.
Cefnogaeth sy’n Gwneud Gwahaniaeth
Wnaeth Clwb Golff Brenhinol Porthcawl ac Itec chwarae rhan allweddol mewn datblygiad Lauren. Mae ei chyflogwr yn annog hi i gynyddu, ac roedd aseswyr Itec wastad ar gael os oedd angen:
“Mae’n neis i wybod os oeddwn i angen help ei bod nhw ar ochr arall y ffôn.”
Wnaeth y cyfuniad yma o drystio a chymorth helpu hi i ddatblygu mewn i arweinydd hyderus.
Gyrfa wedi’i siapio gan Brentisiaethau
Cyn Lefel 3, doedd Lauren ddim yn sicr pa yrfa roedd hi eisiau. Rŵan mae hi wedi ffeindio’r hyn mae hi’n angerddol am. Mae hi’n gobeithio i fod yn rheolwr yn y dyfodol ac mae hi’n teimlo bod ganddi hi’r ddealltwriaeth a phrofiad i wneud o ddigwydd.
Cyngor i Ddysgwyr, Cyflogwyr ac un rhyw un sydd eisiau Cynnydd
Mae neges Lauren yn syml:
I ddysgwyr sy’n symud o Lefel 3 i Lefel 5:
“Ewch amdani. Beth fyddech chi’n colli? Byddech chi dim ond yn gwella a gwella.”
Ar gyfer bobl gyda chyflwr iechyd hir dymor:
“Cerwch amdani. Gallech chi gwneud o o gysur eich cartref – dydy o ddim am wneud pethau’n waeth.”
I gyflogwyr:
“Mae’n gwneud pobl yn hapusach. Os rydych chi eisiau eich staff i ffynnu, maen nhw angen bod yn hyderus. Mae prentisiaethau yn ffordd o sicrhau hynny.”
Mae siwrne Lauren yn dangos sut gall prentisiaethau adeiladu hyder, cynnydd a helpu unigolion i ffeindio gyrfa maen nhw’n caru.
Itec Skills and Employment
Yn ôl i’r brig
More News Articles
« Chwilio Am Lysgenhadon Prentisiaethau — Cynhwysiant mewn Prentisiaethau: Creu Gyrfaoedd, Annibyniaeth a Chyfleoedd ledled Cymru »


