Herio Llywodraeth Cymru i wella prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Chwith i’r Dde: Nicky Perry, Awdur yr Adroddiad Beyond Standards, Kirstie Donnelly Rheolwr Gyfarwyddwr City & Guilds, DigitalMe ac ILM, Jack Sargeant AM, Ken Skates AM Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a Sarah John Cadeirydd NTfW.

Mae Llywodraeth Cymru’n cael ei herio i ystyried cyflwyno ardoll sgiliau ar wahân ar gyfer Cymru, i sefydlu corff arweiniol i reoli ansawdd prentisiaethau ac i gynnig diffiniad clir o ddiben prentisiaethau.

Dyna’r tri phrif beth y mae City & Guilds a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn galw amdanynt mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol trylwyr ‘Sicrhau’r Gwerth Mwyaf i Brentisiaethau yng Nghymru’ a lansiwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw.

Comisiynwyd yr adroddiad gan City & Guilds a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gyda chefnogaeth Pwyllgor Cynghori Cenedlaethol City & Guilds yng Nghymru i ystyried ffyrdd o wella’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru, sydd eisoes yn llwyddiannus.

Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath sy’n canolbwyntio’n benodol ar brentisiaethau yng Nghymru. Mewn ymateb i’r adroddiad, mae City & Guilds a’r NTfW yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi datganiad clir ar bwrpas prentisiaethau sy’n cynnwys eglurder ar y grŵp oedran a dargedir a’r lefelau a fwriedir ar gyfer canlyniadau a symud ymlaen.

“Trwy ofyn i Lywodraeth Cymru fod yn ddiamwys ar bwrpas a gwerth prentisiaethau, credwn y byddai unigolion yn gallu gwneud dewisiadau mwy gwybodus,” meddent. “Ond wrth greu eglurder ynglŷn â beth yw prentisiaeth a beth nad ydyw, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yr effaith ar ddarpariaeth ar lefelau eraill.”

Yr ail beth y gelwir amdano yw sefydlu corff arweiniol i reoli ansawdd prentisiaethau ar lefel genedlaethol, yn cynnwys asesu perfformiad yn erbyn ansawdd, symud ymlaen, canlyniadau o ran cyflogaeth, ac effaith. Byddai’r corff hwn yn adrodd yn rheolaidd wrth Lywodraeth Cymru.

“Bydd canolbwyntio ymdrech mewn un corff, yn hytrach na’i wasgaru ar draws sawl un, yn sicrhau eglurder ynghylch pwy sy’n pennu’r cyfeiriad a phwy sy’n rhoi atebolrwydd i’r system a bydd yn fwy cost-effeithiol o lawer,” meddai’r City & Guilds a’r NTfW.

“Mae’n bwysig i unrhyw gorff arweiniol gael rhywfaint o annibyniaeth oddi wrth y llywodraeth er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a sefydlogrwydd. Ond mae parhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru fel partner allweddol yr un mor bwysig. Bydd sicrhau bod arweinyddiaeth a llywodraethiant y corff arweiniol yn iawn, gan ddefnyddio’r mesurau cywir yn hanfodol i’w lwyddiant hefyd.”

Y trydydd peth y gelwir amdano yw i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o ardoll brentisiaethau’r Deyrnas Unedig yng nghyd-destun Cymru. Nod yr adolygiad hwn fydd bodloni anghenion cyflogwyr ac unigolion yng Nghymru, sicrhau cysondeb â systemau ledled y DU a pharhau i roi blaenoriaeth i brentisiaethau yng Nghymru.

“Os nad yw’r ardoll ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yn dod â manteision a gwerth i Gymru, mae angen adolygiad cynhwysfawr,” meddai City & Guilds a’r NTfW. “Mae angen i gyflogwyr yng Nghymru deimlo bod eu buddsoddiad yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar eu hangen am sgiliau ac, yn ei dro, yn hybu symudedd cymdeithasol.

“Mae sicrhau cysondeb â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig yn bwysig hefyd i’w gwneud yn haws i weithwyr symud a gwneud sgiliau’n fwy trosglwyddadwy. Bydd hefyd yn caniatáu i gyflogwyr mawr, aml-safle sicrhau cysondeb yn y prentisiaethau a gynigir ledled y Deyrnas Unedig.

“Bydd ardoll sgiliau ehangach yn fwy gwerthfawr i gyflogwyr ond awgrymwn y dylid parhau i roi blaenoriaeth i brentisiaethau er mwyn gwarantu cyflenwad parhaus o dalent newydd.”

Ymhlith argymhellion eraill City & Guilds a’r NTfW mae:

  • Adolygu’r polisi pob-oed a’r polisi cyfredol ar brentisiaethau lefel 2 a lefel 3;
  • Galluogi’r system brentisiaethau, yn cynnwys gwaith adolygu a datblygu cymwysterau, i ymateb yn gynt i ofynion y farchnad lafur;
  • Datblygu dangosyddion perfformiad i ddangos rhagoriaeth ac effaith mewn prentisiaethau a defnyddio’r rhain i gyfrannu at fframweithiau arolygu a fframweithiau ansawdd eraill;
  • Sefydlu’r nifer gorau posibl o fframweithiau prentisiaethau fel y gall cyflogwyr yng Nghymru fodloni gofynion y farchnad lafur yn awr ac yn y dyfodol a sicrhau bod pobl yn gallu symud ymlaen i alwedigaethau â blaenoriaeth;
  • Sefydlu meini prawf ar gyfer dethol darparwyr gan flaenoriaethu: ansawdd addysgu, dysgu ac asesu; rheoli perfformiad isgontractwyr; a rheoli cyllid er mwyn sicrhau canlyniadau da.

Gofynnwyd i awduron yr adroddiad, David Sherlock CBE a Nicky Perry MBE o Beyond Standards, i ymchwilio a dadansoddi lled a dyfnder y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru a sut y mae unigolion ac economi Cymru yn elwa ohoni.

Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Mehefin a Thachwedd 2018 ac roedd yn cynnwys adolygu nifer fawr o gyhoeddiadau diweddar sy’n berthnasol i brentisiaethau yng Nghymru, ynghyd â chyfweliadau gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau, colegau addysg bellach, cyrff cynrychiadol a swyddogion y llywodraeth.

Dywedodd Sarah John, Cadeirydd NTfW: ”Mae pawb ohonom yn frwd dros swyddogaeth prentisiaethau yn creu economi fodern lwyddiannus a
chymdeithas decach yng Nghymru. Yn ogystal â chredu mewn gwella, rydym yn awyddus i ddylanwadu ar y gwaith o lunio dyfodol i Gymru lle mae pawb yn elwa a helpu i gyflawni hynny.

“O’r holl newidiadau a nodir yn yr adroddiad, cyflymder ac ystwythder wrth ffurfio a gweithredu polisïau sydd ar frig y rhestr. Ceir teimlad llethol bod newidiadau angenrheidiol yn digwydd yn rhy araf.

“Mae hynny’n her os yw Cymru’n mynd i ymateb yn gadarnhaol ac yn effeithiol i’r galw am sgiliau newydd a mwy o sgiliau. Mae rhai o’r fframweithiau prentisiaethau wedi dyddio a bydd angen eu hadfywio’n sydyn ac mewn ymateb i anghenion cyflogwyr a’r farchnad lafur.

“Mae’r adroddiad yn nodi hefyd bod gennym lawer i fod yn falch ohono. Nod y galwadau ar i Lywodraeth Cymru weithredu yw rhoi hwb ymlaen i’r drafodaeth am ansawdd y Rhaglen Brentisiaethau ac mae’n bosibl i’r galwadau hynny gael effaith ar unwaith.”

Dywedodd Kirstie Donnelly, Rheolwr Gyfarwyddwr City & Guilds, DigitalMe ac ILM: “Mae prentisiaethau’n hanfodol er mwyn datgloi talentau, galluogi symudedd cymdeithasol a hybu twf economaidd yng Nghymru. Yn awr, gydag ansicrwydd Brexit a mwy o fylchau sgiliau a phrinder sgiliau, daeth yn bryd i Lywodraeth Cymru edrych yn ofalus ar y ddarpariaeth o ran prentisiaethau a chymryd camau pendant.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pa mor bwysig yw cael system brentisiaethau sy’n galluogi cyflogwyr i’w hymgorffori’n llwyr yn eu busnesau. Croesawyd yr egwyddorion a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ond mae yna newidiadau yr hoffai pobl eu gweld.

“Mae prentisiaethau’n arwain at well swyddi, symud ymlaen yn eich gyrfa, bod yn fwy cynhyrchiol, ac at leihau effaith prinder sgiliau. Credwn y gall ein hargymhellion ni fynd i’r afael â’r heriau a ddatgelir gan adroddiad Beyond Standards ac, os cânt eu gweithredu, byddant yn gosod Cymru ar y llwybr i lwyddiant.”

Dywedodd awduron yr adroddiad, David Sherlock a Nicky Perry: Rydym yn ddiolchgar i’r llu o gyflogwyr, darparwyr Prentisiaethau a swyddogion yng Nghymru a ddywedodd eu barn wrthym. Dywedon nhw wrthym fod y system Brentisiaethau yng Nghymru’n ffynnu a’i bod wedi osgoi llawer o’r camgymeriadau a wnaed mewn mannau eraill. Ond fe ddywedon nhw hefyd mai dyma’r adeg i wneud penderfyniadau eofn a allai sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y Deyrnas Unedig i recriwtio gweithwyr medrus iawn.

Rydym ni’n credu yn y weledigaeth obeithiol honno. Mae ein hadroddiad yn awgrymu rhai o’r camau cyntaf at wireddu hynny.

More News Articles

  —