Gwobr genedlaethol yn cyfrif i Karen, y tiwtor cyfrifeg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Karen Richards, Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae Karen Richards, sy’n ysbrydoli ac yn cefnogi ei dysgwyr cyfrifeg i gyflawni eu potensial, wedi ennill gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru.

Karen, 54, o’r Coed-duon, yw tiwtor a chydlynydd cyfrifeg ACT, Caerdydd ers 2016 ac enillodd y wobr yn seremoni rithwir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.

Mae cyfradd basio o 86% yn golygu bod dysgwyr Karen yn gwneud dipyn yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae ganddi bob amser dros 60 o ddysgwyr ar wahanol gamau o’u hyfforddiant AAT (Association of Accounting Technicians) ac mae’n dysgu mewn gweithdai dydd a rhai gyda’r nos, a hynny ar-lein yn ystod y pandemig.

Dywedodd Karen: “Pan ddechreuais i yn y gwaith, doeddwn i ddim yn disgwyl ennill gwobr fel hon. Roeddwn i wedi gwirioni pan oedd fy rheolwr yn awyddus i fy enwebu ac alla i ddim credu bod hyn wedi digwydd. Rwy wrth fy modd.

“Rwy’n ei gweld yn fraint fawr cael gweithio gyda dysgwyr a’u gweld yn datblygu yn broffesiynol. Mae’n deimlad gwych derbyn neges ebost gan ddysgwr sydd wedi fy mhasio i ac sy’n gyfarwyddwr cyllid erbyn hyn. Rwy’n gwybod bod nifer o fy nysgwyr yn gwylio’r seremoni wobrwyo.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Mae Karen yn defnyddio’r cyfoeth o brofiad sydd ganddi i ddysgu Diploma Uwch a Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg mewn ffordd ddifyr a hwyliog. Yn ogystal â hyfforddi ei dysgwyr Lefel 4 hi ei hunan yn ACT, mae Karen yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr dysgu eraill pan fydd eu dysgwyr yn ei chael yn anodd.

Mae ganddi gymwysterau AAT i Lefel 4, Tystysgrif Addysg a Dyfarniad Aseswyr ac mae’n ymroi i ehangu ei gwybodaeth a hybu ei datblygiad proffesiynol yn barhaus.

A hithau’n frwd o blaid dysgu a’i gwneud yn haws i ddysgwyr ymdopi â chymwysterau AAT, mae Karen yn addasu ei dull o ddysgu ac yn defnyddio gwahanol adnoddau sy’n addas i wahanol ddysgwyr, rhai ohonynt yn wynebu rhwystrau fel dyslecsia a gorbryder.

Rhedodd un dysgwr Lefel 2 allan o arholiad pan gafodd bwl o orbryder ond, gyda chefnogaeth Karen, aeth ymlaen i ennill cymhwyster Lefel 4.

“Mae tiwtor yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu nod, yn gweithredu fel mentor, cheerleader a chlust i wrando,” meddai Karen. “Mae’n sefyllfa freintiedig a gallwch gael effaith bwerus – pa un bynnag a ydych chi’n chwech oed neu’n 60, mae angen profiad o lwyddiant ar bawb ohonom.

“Pan rwy’n derbyn sylwadau fel ‘Wnaeth Karen byth anobeithio amdanaf i, hyd yn oed pan oeddwn i wedi anobeithio amdanaf fy hunan’ mae’n fy atgoffa pam rwy’n dysgu.”

Wrth longyfarch Karen, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —