Effaith deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar addysg a hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mewn oes lle mae technoleg yn datblygu’n gyflym, mae sefydliadau hyfforddiant ledled Prydain ar groesffordd: y dewis yw croesawu potensial trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial (AI) i wella effeithlonrwydd, neu wynebu’r perygl o golli’r ras mewn byd digidol. Y gwir amdani yw ein bod yn byw mewn byd sy’n defnyddio AI ac, er mwyn helpu ein myfyrwyr i ffynnu a chael swyddi cynaliadwy ar ôl eu hyfforddiant, mae angen inni ei groesawu: mae’n amhosibl ei osgoi ac nid yw gwahardd ei ddefnyddio yn opsiwn, gan ei fod eisoes yn rhan o feddalwedd y mae pawb ohonom yn ei ddefnyddio bob dydd e.e. golygyddion testun dogfennau, ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol, cyfarwyddiadau Google Maps, ac argymhellion Netflix, Spotify ac ati.

Mae’n dod yn fwyfwy hanfodol integreiddio Deallusrwydd Artiffisial yn y sectorau addysg a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn gyndyn o’i ddefnyddio, yn bennaf gan fod technoleg AI cynhyrchiol yn esblygu mor gyflym ac oherwydd yr heriau o’i integreiddio â fframweithiau addysg presennol. Er gwaethaf y pryderon hyn, nid yw osgoi AI yn opsiwn dymunol erbyn hyn. Nid ‘A ddylem ddefnyddio AI?’ yw’r cwestiwn, ond sut i’w ddefnyddio mewn ffordd effeithiol a chyfrifol.

Mae gan offer AI cynhyrchiol fel ChatGPT a Google Bard y potensial i newid y ffordd o gyflwyno hyfforddiant. Mae AI cynhyrchiol yn ardderchog am awtomeiddio tasgau ailadroddus, o greu deunyddiau dysgu i ddylunio cyrsiau a helpu i gynllunio gwersi, ac mae’n ffordd effeithlon o hwyluso’r prosesau hyn. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod addysgwyr yn mynd ati mewn ffordd feirniadol i adolygu cynnyrch AI.

Gall offer AI cynhyrchiol helpu dysgwyr trwy danio syniadau ar gyfer ysgrifennu, symleiddio cysyniadau cymhleth, a dysgu sgiliau beirniadol fel gwirio ffeithiau. Yn ogystal, mae ganddynt ran hanfodol i’w chwarae wrth wneud dysgu’n fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Er enghraifft, gall offer fel Teachermatic helpu athrawon i gynllunio a chyflwyno gwersi mwy cynhwysol, sy’n ymgysylltu’n well â’r disgyblion.

Mae NCAITE gan Jisc yn darparu adnoddau ymarferol amrywiol – i roi sylfaen gadarn wrth i chi ystyried sut i drin AI.

Mae cyflwyniad Jisc, Generative AI primer, yn fan cychwyn da. Caiff ei ddiweddaru bob tri mis i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg ac offer AI cynhyrchiol, a’u goblygiadau i fyd addysg.

Diweddarwyd ein hadroddiad blynyddol AI in tertiary education ym mis Medi 2023 ac mae’n rhoi trosolwg o’r hyn y gall AI ei wneud i aelod-sefydliadau, lle y gall ychwanegu’r gwerth mwyaf, a beth i’w ystyried er mwyn ei roi ar waith mewn ffordd foesegol. Yna, bwriad A pathway towards responsible, ethical AI yw helpu pobl i ganfod eu ffordd yn hyderus trwy’r materion cymhleth hyn.

Ymunwch â’n Jiscmail i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ac ymgysylltu â chymuned NCAITE, derbyn diweddariadau, a rhannu profiadau am esblygiad rôl AI mewn addysg.

Gweithgor ar gyfer AI yng Nghymru
Rydym wedi sefydlu Gweithgor ar gyfer AI yng Nghymru gydag ardal Teams i chi rannu syniadau a gwybodaeth rhwng cyfarfodydd. Dewisodd y grŵp weithio fesul un ar y themâu a ddewiswyd – Profiad y dysgwr a chyflogadwyedd, Datblygu hyfforddiant/sgiliau staff, a Pholisïau. Mae’r tymor cyntaf yn canolbwyntio ar bolisïau. Cynhelir cyfarfod nesaf y gweithgor ar 4 Rhagfyr 2023, 2:00 – 3:30pm, a byddwn yn edrych ar Bolisïau AI. Croeso i ragor o wirfoddolwyr – cysylltwch â’ch rheolwr perthynas gyda Jisc i gael gwybod mwy.

Gweithdai Llythrennedd Digidol
Isod, gwelir dyddiadau a manylion bwcio Gweithdai Hydref Llythrennedd Digidol gan Jisc. Maent wedi’u hanelu at ymarferwyr sy’n cyflwyno’r cymhwyster Llythrennedd Digidol a bydd elfen o rannu syniadau, ymchwilio i offer ac ati.

  • 18 Rhagfyr 2023 10am -12:30 Coleg Gŵyr Abertawe, Neuadd Sgeti, Abertawe SA2 8QF – Cofrestru
  • 20 Rhagfyr 10am – 12 Ar lein trwy Teams – Cofrestru

Yn ogystal, mae gennym Gymuned Diemyntau Digidol ar gyfer ymarferwyr sy’n cyflwyno’r cymhwyster Llythrennedd Digidol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r gymuned honno, rhowch wybod i ni.

Meithrin Galluoedd Digidol
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai a gwasanaethau fel rhan o aelodaeth sefydliadau a staff sy’n darparu addysg ôl-16 yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n talu am y rhain.

  • Gweledigaeth ar gyfer Galluogrwydd a Sgiliau Digidol
  • Gweithdai Dysgu Cyfunol
  • Ymchwilio i Offer Digidol
  • Diogelwch Ar-lein
  • Gweithdy Cyflogadwyedd
  • Llesiant a Hunaniaeth Digidol
  • O Diflas i Difyr

Gallwn addasu’ch diwrnod cefnogaeth i ateb eich gofynion penodol. Efallai yr hoffech gael ffrind beirniadol i’ch cefnogi ar brosiect penodol; neu gyngor pwrpasol i oresgyn her neu broblem benodol. Byddem yn barod iawn i drafod sut y gallwn eich cefnogi ar eich taith i feithrin galluogrwydd digidol a hyder ymarferwyr dysgu.

Gweithdai Ar-lein Galluogrwydd Digidol
Bydd Jisc yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein i helpu pobl i feithrin galluogrwydd digidol trwy gydol gwanwyn 2024. Defnyddiwch y cod WALESFREE ym mlwch y cod hyrwyddo ar y dudalen dalu.

Cysylltwch â’ch rheolwr perthynas gyda Jisc i gael gwybod mwy.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —