Mae gweithlu anhygoel o ymroddedig yn cyflenwi dysgu gydol oes a grymuso unigolion i ddarganfod llwybrau a thrawsnewid eu bywydau drwy addysg a chyflogaeth.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd enwebiadau ar gyfer tiwtoriaid a mentoriaid eithriadol sydd wedi grymuso oedolion i ennill hyder, cymhelliant a sgiliau i arwain bywydau iachach a mwy llewyrchus. Bydd enwebiadau hefyd yn rhoi sylw i effaith sylweddol y tiwtoriaid hyn ar y sector addysg oedolion, gan gyfrannu at uchelgais Cymru o ddod yn genedl ail gyfle.
Bydd tiwtoriaid a mentoriaid yn dangos eu hymroddiad i fynd yr ail filltir i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i adnabod eu potensial a chyflawni eu huchelgais mewn addysg a gwaith.
Gellir cyflwyno enwebiad mewn unrhyw un o’r chwe categori gwobr:
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Lleoliad Gweithle
Addysg Gymunedol
Cymraeg i Oedolion
Ysgol neu leoliad arall
Dyddiad cau terfynol enwebiadau yn Dydd Llun yw 23 Rhagfyr 2024.
Yn lle hynny, mae croeso i chi lenwi’r ffurflen enwebu ar-lein a bydd angen gwneud hynny mewn un eisteddiad. Rydym yn argymell eich bod yn llenwi eich enwebiad yn defnyddio dogfen Word cyn ei gyflwyno ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen unrhyw gymorth gyda’ch enwebiad, cysylltwch â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn: inspire@learningandwork.org.uk.
Caiff Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru, NTfW, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgolion Cymru a phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.