Llwybr Shauna at lwyddiant: Hyrwyddo harddwch gydag ISA Training

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Shauna giving a manicure to a client.

Shauna, prentis Harddwch, Lefel 2, ISA Training yn Rokoko Hub.

Mae taith Shauna yn y diwydiant harddwch wedi bod yn hollol ysbrydoledig. Ar ôl gadael yr ysgol, penderfynodd ddilyn Prentisiaeth Lefel 2 mewn Harddwch gydag ISA Training (sy’n falch o gael perthyn i Grŵp Educ8).

Ar hyn o bryd mae Shauna’n gweithio yn Rokoko Hub lle mae’n ffynnu ac yn mwynhau pob cam o’i datblygiad proffesiynol. Mae ei hangerdd dros harddwch yn cynyddu bob dydd, ac yma mae’n rhannu ei phrofiad o ddewis llwybr prentisiaeth ac effaith gadarnhaol hynny ar ei gyrfa.

Cafodd profiadau pobl o’i chwmpas ddylanwad ar benderfyniad Shauna i ddilyn llwybr prentisiaeth.
Sylwodd Shauna fod llawer o’i chyfoedion a ddilynodd gyrsiau coleg traddodiadol mewn harddwch yn dweud na chawsant ddigon o brofiad ymarferol, a bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w gyrfaoedd, ond bod y rhai a wnaeth brentisiaeth gydag ISA Training yn ei weld yn opsiwn llawer gwell.

Yn ôl Shauna, wrth ddysgu yn y gweithle mae’n cael cyfle i ddeall y diwydiant harddwch yn well a defnyddio’r hyn y mae’n ei ddysgu wrth weithio gyda chleientiaid go iawn. Mae’n gwerthfawrogi’r profiad ymarferol a gaiff a’r gallu i ddatblygu sgiliau mewn salon go iawn.

Cafodd Shauna ei phlesio â chefnogaeth ac arweiniad ei hanogwr hyfforddiant târwy gydol ei phrentisiaeth.
Mae’r berthynas weithiol dda hon wedi bod yn ffactor allweddol yn llwyddiant Shauna hyd yma. Mae cael rhywun sy’n deall heriau cydbwyso bywyd gwaith ac astudio yn golygu bod ei phrofiad o’r brentisiaeth yn llawer llyfnach a mwy pleserus.

Meddai: ‘Mae fy anogwr hyfforddiant mor hyfryd ac yn help mawr wrth drafod y llwyth gwaith neu’r arholiadau. Mae wedi bod yn wych cydweithio â hi yn ystod fy nghwrs.’
A hithau mor frwd dros ei thaith fel prentis, mae Shauna eisoes yn ystyried ei chamau nesaf.

Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth Lefel 2, mae’n awyddus i barhau â’i hyfforddiant trwy ennill cymhwyster Lefel 3 er mwyn ehangu ei sgiliau a datblygu ei gyrfa. Mae’n gwerthfawrogi’r cyfle i ennill profiad mewn gwahanol feysydd yn y salon ac mae’n credu’n gryf y bydd cwblhau prentisiaeth gydag ISA Training yn rhoi’r profiad cyflawn y mae arni ei angen er mwyn rhagori yn y diwydiant harddwch.

Meddai: ‘Rwy’n mwynhau gwaith ewinedd a cholur ar y brentisiaeth ar hyn o bryd, ond rwy wir eisiau rhoi cynnig ar bopeth er mwyn penderfynu beth rwy’n ei hoffi fwyaf.’

Trwy gyfuno sgiliau ymarferol a gwybodaeth o lyfr, mae Shauna’n darganfod beth sy’n rhoi pleser iddi yn ogystal ag yn ei pharatoi ei hunan ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant harddwch.

Os hoffech wybod rhagor am brentisiaethau gydag ISA Training, ewch i: isatraining.co.uk neu cysylltwch â ni i gael gwybod sut i dyfu eich busnes.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —