Wythnos Addysg Oedolion Dysgu a Gwaith
English | Cymraeg
Ymunwch â phartneriaeth ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion 2026 y Sefydliad Dysgu a Gwaith, dathliad cenedlaethol o ddysgu gydol oes a gynhelir ledled Cymru rhwng 21-27 Medi.
Caiff yr ŵyl flynyddol ei threfnu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac mae’n gyfle arbennig i bobl groesawu cyfleoedd newydd i ddysgu, edrych am gysylltiadau a gwybodaeth newydd, gan arddangos effaith rymus dysgu gydol oes ar unigolion, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru.
Gwahoddir sefydliadau mewn llu o sectorau i ymuno â rhwydwaith partneriaid yr ymgyrch drwy gydol mis Medi, yn ogystal ag yn ystod yr wythnos ffocws, i gefnogi a hyrwyddo gwerth dysgu gydol oes ledled Cymru. Drwy ymuno, gallwch gyflwyno digwyddiadau arbennig, sesiynau blasu, cyrsiau ac adnoddau, arddangos eich darpariaeth a’ch prosiectau a dathlu straeon sy’n ysbrydoli am addysg oedolion.
Mae mwy o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith: . I gofrestru eich diddordeb yn yr ymgyrch, llenwch y ffurflen a bydd aelod o staff Dysgu a Gwaith mewn cysylltiad â chi.
Yn ychwanegol at hyn, mae ceisiadau ar agor ar gyfer Cronfa Arloesedd yr Wythnos Addysg Oedolion 2026. Mae nifer fach o grantiau ar gael i gefnogi gweithgareddau ymgyrch ar draws Cymru, gan alluogi darparwyr i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo yn ystod yr wythnos swyddogol a drwy gydol mis Medi.
Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu cynigion i greu sesiynau blasu, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd yn y gymuned, dosbarthiadau meistr a dyddiau agored a gweithgareddau llais dysgwyr rhad ac am ddim, gyda dyddiad cau o ddydd Gwener 3 Gorffennaf 2026 i wneud cais am gyllid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Dysgu a Gwaith yn uniongyrchol yn: alwevents@learningandwork.org.uk
More News Articles
« Ysgogi Rhagoriaeth: Mae Darparwyr Dysgu Seiliedig Ar Waith Yn Camu i’r Adwy o ran Cystadlaethau Sgiliau — Hyfforddiant Educ8 yn dathlu pencampwyr y Gymraeg yn eu Gwobrau Hoelen8 2026 »


