Diwygio Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
English | Cymraeg
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei adroddiad canfyddiadau a phenderfyniadau ar ôl ei broses ymgynghori ar ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol. Mae’r Uwch Reolwr Cymwysterau Oliver Stacey yn ein tywys trwy’r penderfyniadau a’r camau nesaf.
Pwysigrwydd SHC
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) yn elfen sylweddol a phwysig ym maes cymwysterau. Fel cyfres, maen nhw ymhlith y cymwysterau sy’n cael eu hardystio fwyaf yng Nghymru. Maen nhw’n gonglfaen fframweithiau prentisiaethau ac yn cael eu dilyn gan lawer o ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16 fel dewisiadau amgen i ailsefyll TGAU.
Mae’r cymwysterau hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a digidol trosglwyddadwy hanfodol sydd eu hangen ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.
Pam rydyn ni’n diwygio SHC
Yn dilyn adolygiad manwl o Sgiliau Hanfodol Cymru, rydyn ni’n diwygio’r cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn bethnasol ac yn afaelgar yn ogastal â bod yn hydrin i ganolfannau eu darparu ac i ddysgwyr eu cwblhau.
Nododd ein hadolygiad lawer o agweddau cadarnhaol ar gymwysterau presennol SHC. Fodd bynnag, roedd nifer o feysydd lle tynnodd rhanddeiliaid sylw at gyfleoedd i gryfhau’r cymwysterau hyd yn oed ymhellach, yn enwedig mewn perthynas â:
- pherthnasedd y cynnwys
- hyd yr asesiadau
- hydrinedd yr asesiadau
- cynnydd rhwng lefelau
Wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer y cymwysterau diwygiedig, ein blaenoriaeth yw mynd i’r afael â’r agweddau hyn ar y cymwysterau. Fe wnaethon ni ymgysylltu’n helaeth ag ystod o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y cymwysterau hyn. Mynegwyd amrywiaeth eang o safbwyntiau o amgylch SHC, nad yw’n syndod o ystyried yr ystod amrywiol o amgylcheddau lle mae’r cymwysterau hyn yn cael eu darparu. Roedd ein cynigion yn ceisio cydbwyso’r safbwyntiau gwahanol hyn.
Siapio dyfodol SHC
Rhwng Tachwedd 2025 a Chwefror eleni, fe wnaethon ni ymgynghori ar y gofynion dylunio ar gyfer cymwysterau SHC diwygiedig ym meysydd rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol. Roedd ein cynigion yn cynnwys y canlynol.
Lleihau’r amser asesu cyffredinol
Er mwyn lleihau’r amser asesu cyffredinol ar lefelau 1 a 2 ar draws y tri maes pwnc er mwyn mynd i’r afael â phryderon ynghylch hydrinedd yr asesiadau, fe wnaethon ni gynnig cynyddu cyfran yr asesiad allanol. Byddai hyn hefyd yn lleihau faint o waith marcio a chymedroli y byddai gofyn i ganolfannau ei wneud, a thrwy hynny’n lleihau llwyth gwaith tiwtoriaid.
Cynnydd cliriach mewn cynnwys rhwng lefelau
Er enghraifft, o fewn y cymhwyster llythrennedd, fe wnaethon ni gynnig cael datganiadau mwy penodol ynghylch y lefel ofynnol o hyfedredd mewn sillafu, atalnodi a gramadeg ar bob lefel o’r cymhwyster i helpu i wahaniaethu’n gliriach rhwng y lefelau.
Cynnwys mwy cyfoes
Er enghraifft, mewn rhifedd, fe wnaethon ni gynnwys mwy o fathemateg ariannol yn y cymhwyster, ac o fewn y cynhwyster digidol fe wnaethon ni roi mwy o ystyriaeth i ddeallusrwydd artiffisial.
Defnyddio cyfrifianellau
Yn y cymhwyster rhifedd, fe wnaethon ni gynnig y dylai mwyafrif y cwestiynau yn yr asesiadau ar lefel 1 a 2 ganiatáu defnyddio cyfrifiannell.
Newidiadau i deitlau cymwysterau
Er mwyn adlewyrchu cynnwys y cymwysterau’n well ac i nodi newid yn y cymwysterau’n glir, fe wnaethon ni gynnig newid teitlau’r cymwysterau o Cymhwyso Rhif i Rhifedd, Llythrennedd Digidol i Digidol a Cyfathrebu i Llythrennedd.
Dileu cymwysterau SHC ar Lefel 3 a Mynediad 1 a 2 mewn Digidol o’r gyfres SHC
Ein penderfyniadau yn dilyn yr ymgynghoriad
Cawson ni ymateb ffafriol i’n hymgynghoriad o ran nifer y bobl a ymatebodd. Roedd hyn yn cynnwys dros 700 o gyflwyniadau gan ddysgwyr. Roedd cefnogaeth eang i’n cynigion ymgynghori gan ddysgwyr ac ymatebwyr eraill, gyda llawer o bobl yn mynegi barn gadarnhaol ynghylch ein ffocws ar wella hydrinedd y cymwysterau i ganolfannau a dysgwyr.
Felly, yn y rhan fwyaf o achosion rydyn ni wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynigion ein hymgynghoriad. Fodd bynnag, yn seiliedig ar adborth yr ymgynghoriad rydyn ni wedi:
- gwneud mân ddiwygiadau i’r cynnwys trwy gynnwys manylion ychwanegol er mwyn gwella eglurder
- newid y strwythur asesu ar gyfer Llythrennedd ar Lefelau 1 a 2 drwy rannu’r asesiad darllen ac ysgrifennu yn asesiadau ar wahân
- ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu, ar draws pob pwnc, ddarparu o leiaf un asesiad a gynhyrchwyd yn allanol ar gyfer pob cymhwyster lefel mynediad
Darllenwch fwy am ganfyddiadau a phenderfyniadau ein hymgynghoriad.
Y camau nesaf yn y broses
O ystyried statws cymwysterau SHC, bydd yn ofynnol i unrhyw gorff dyfarnu sy’n dymuno eu cyflwyno ymgymryd â phroses gydnabod yn gyntaf. Mae hyn er mwyn rhoi digon o sicrwydd i ni, fel y rheoleiddiwr, fod ganddyn nhw’r arbenigedd, y capasiti a’r gallu i gyflawni a dyfarnu’r cymwysterau hyn am oes y cymhwyster. Unwaith y bydd cyrff dyfarnu wedi cael cydnabyddiaeth, byddan nhw’n gallu dechrau datblygu’r cymwysterau a’u cyflwyno i ni i’w cymeradwyo.
Y bwriad yw y bydd y cymwysterau newydd ar gael o fis Medi 2028 ymlaen, gyda manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael ymhell cyn yr addysgu cyntaf i roi digon o amser i ddarparwyr dysgu gynllunio a pharatoi i’w cyflwyno.
Byddwn ni’n ymgysylltu’n agos â darparwyr dysgu, cyrff dyfarnu a rhanddeiliaid allweddol eraill, megis Medr a Llywodraeth Cymru, wrth i ni ymgymryd â gweithgareddau rheoli newid i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cymwysterau newydd a’r trosglwyddiad llyfn o’r cymwysterau etifeddol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried pa mor hir y bydd y fersiynau etifeddol a’r fersiynau newydd o’r cymwysterau yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r sector dysgu seiliedig ar waith rhwng nawr a mis Medi 2028 i helpu i wireddu manteision llawn y diwygiadau hyn.
More News Articles
« Wythnos Addysg Oedolion Dysgu a Gwaith — Hyfforddiant Educ8 yn dathlu pencampwyr y Gymraeg yn eu Gwobrau Hoelen8 2026 »


