Lle ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru i gwmni cymorth TG sy’n tyfu

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Pisys.net director Steve Bain – “Apprenticeships ideal for our business”.

Cyfarwyddwr Pisys.net Steve Bain – “Mae Prentisiaethau yn ddelfrydol i’n busnes ni”.

Mae Prentisiaethau’n rhan hanfodol o raglen recriwtio cwmni sy’n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau TG fforddiadwy i fusnesau ledled Prydain o’i brif swyddfa yn Abertawe.

Sefydlwyd Pisys.net yn 2003 ac erbyn hyn mae’n un o’r prif gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau TG allanol, i fusnesau bach newydd a sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Yn awr, mae’r cwmni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018. Bydd Pisys.net yn cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae Pisys.net yn ehangu ledled Prydain trwy gynnig cyfleoedd masnachfreinio i unigolion medrus o feddwl tebyg. Gyda masnachfreintiau o Inverness i Gaerdydd, mae tîm Pisys.net wedi tyfu i 22.

Ar ôl recriwtiio 18 o brentisiaid dros y degawd diwethaf, mae gan y cwmni dri ar hyn o bryd sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Gwaith Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd a Thelathrebu a gyflenwir gan ITeC Abertawe.

Mae Pisys.net wedi’i achredu’n Bartner Busnes i IBM ac mae wedi cadw statws Partner Microsoft oherwydd ei ymrwymiad i hyfforddi staff a datblygiad proffesiynol parhaus ac am ei fod yn cael ei ganmol gan gleientiaid.

“Wrth recriwtio, rydym ni’n hoffi penodi pobl sydd i’w gweld yn addas ar gyfer ein busnes a defnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth,” meddai cyfarwyddwr y cwmni Steve Bain.

“Trwy wneud hyn a chynnig llwybr pendant y gall staff symud ymlaen ar ei hyd, gallwn recriwtio, hyfforddi a symud staff ymlaen yn gyflym er budd y busnes a’r unigolyn.

“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n ddelfrydol ar gyfer ein busnes ni oherwydd gallwn gyfuno hyfforddiant mewnol a’r hyfforddiant allanol ardderchog a gawn gan ITeC Abertawe i sicrhau canlyniad sydd o fudd i bawb.”

Roedd Helen Necrews, rheolwr gyfarwyddwr ITeC Abertawe, yn llawn canmoliaeth i ymrwymiad Pisys.net i Brentisiaethau: “Ar ôl meithrin perthynas dda a chefnogol, roedd modd i ni addasu gwaith recriwtio, cefnogi a hyfforddi i fodloni amcanion y cwmni,” meddai.

Wrth longyfarch Pisys.net ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —