Prentisiaid yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant FLS

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Rheolwr gyfarwyddwr FLS, Ieuan Rosser, gyda phrentisiaid.

Rheolwr gyfarwyddwr FLS, Ieuan Rosser, gyda phrentisiaid.

Mae prentisiaid wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad llwyddiannus cwmni Freight Logistics Solutions o Gwmbrân, cwmni rheoli cadwyni cyflenwi sy’n arbenigo mewn logisteg.

Ffurfiwyd y cwmni gan y rheolwr gyfarwyddwr Ieuan Rosser ym mis Mai 2016, ac mae’n cyflogi 25 o bobl, yn cynnwys chwech o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes gyda Hyfforddiant Torfaen. Yn cyd-fynd â’r Brentisiaeth, mae rhaglen hyfforddi fewnol sy’n canolbwyntio ar reoli cadwyni cyflenwi a logisteg.

Yn awr, mae FLS wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae FLS yn cynnig gwasanaethau cludo ym Mhrydain, Ewrop a gweddill y byd sy’n gwella’r gwasanaeth sydd ar gael i gleientiaid ac yn lleihau’r costau. Ac yntau’n cychwyn ar ei drydedd flwyddyn, mae’r cwmni wedi ennill nifer o wobrau i gwmnïau newydd a’i nod yw dyblu ei drosiant a’i staff cyn pen pum mlynedd.

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n rhan bwysig o gynllun busnes y cwmni. Caiff prentisiaid eu recriwrio ar sail eu potensial, cânt brofiad o wahanol adrannau yn y busnes a’u hannog i wneud awgrymiadau, i fod yn ddyfeisgar, i brofi pethau newydd ac i ddatblygu’n aelodau amhrisiadwy o dîm.

“Gall fod yn anodd dychmygu y bydd pobl ifanc 17 oed heb brofiad o gwbl o fyd busnes yn dod yn llwyddiannus ond mae’n rhoi boddhad mawr i ni eu gweld yn dysgu ac yn datblygu o’r dechrau’n deg,” meddai Ieuan.

“Rydym wedi gweld bod y prentisiaid yn llawn egni ac yn wybodus a’u bod yn dod â bywiogrwydd a syniadau ffres i’r gweithle. Rydym yn fusnes agored iawn ac mae hyn yn eu helpu i ddatblygu’n gyflym mewn busnes sy’n tyfu’n sydyn a dod yn rhan hanfodol o weithrediad y cwmni.

“Yn ogystal â chynnig cyfle i bobl ifanc gychwyn ar yrfa werth chweil yn ein sector, mae prentisiaethau’n dod â llu o fanteision i fusnesau.”

Dywedodd Richard Cook o Hyfforddiant Torfaen: “Rydym yn barod iawn i sôn wrth fusnesau lleol am FLS a’r hyn y gellir ei gyflawni trwy ddefnyddio Rhaglen Brentisiaethau mewn ffordd effeithiol.”

Wrth longyfarch FLS ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —