Cefnogi taith ddysgu broffesiynol y gweithlu DSW

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Kelly Edwards, Head of Work-based Learning Quality



























Bu’r blynyddoedd diwethaf yn gyfnod cyffrous i ddysgu seiliedig ar waith (DSW). Cafwyd nifer o ddatblygiadau allweddol ar daith broffesiynoli ymarferwyr DSW yng Nghymru: o gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ym mis Ebrill 2017, i lansio’r Safonau Proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr DSW ym mis Tachwedd 2017, ac yna raglen arbennig o ddysgu proffesiynol wedi’i chydlynu gan NTfW a’i chefnogi gan Cymwysterau Cymru.

Mae NTfW newydd gwblhau cyfres o weithdai dysgu proffesiynol Mae Ansawdd yn Bwysig ar gyfer ymarferwyr DSW ledled Cymru ac rydym yn diolch i Cymwysterau Cymru am roi cymorth grant i’n holl ddigwyddiadau. Cyflwynwyd y gweithdai i gyd gan Jo Kelso yn LearnOn a bu ymateb y rhai a gymerodd ran yn gadarnhaol iawn. Datblygwyd y gweithdai mewn ymateb i argymhellion am welliannau a nodwyd yn adolygiadau sector Cymwysterau Cymru a gyhoeddwyd rhwng 2016 a 2018.

Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r sector DSW, bu NTfW yn cydweithio â Jisc i ddatblygu gweithdy dysgu proffesiynol newydd i gyrraedd safonau proffesiynol athrawon addysg bellach ac ymarferwyr DSW. Mae’r gweithdy’n agored i aelodau NTfW ac fe’i cynhelir yn y gogledd a’r de.

Roedd yn bleser gan NTfW gymeradwyo’r safonau proffesiynol a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017 ac roedd cynrychiolwyr o’r sector wrth eu bodd o gael cyfrannu at y datblygiad.

Datblygwyd y safonau proffesiynol gan dîm o weithwyr proffesiynol o’r sector – yr un faint o athrawon addysg bellach ag o ymarferwyr DSW – ac arweiniwyd y prosiect gan yr Athro Bill Lucas o The Centre for Real-World Learning ym Mhrifysgol Caer-wynt sydd â phrofiad helaeth o addysgu a dysgu galwedigaethol ar lefel ryngwladol.

Un o brif elfennau’r safonau yw eu bod yn canolbwyntio ar rai sy’n cyflenwi cymwysterau galwedigaethol fel ‘proffesiynolion deuol’, yn arbenigwyr yn eu diwydiant ac yn athrawon arbenigol, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol y dysgwyr. Mae pwysigrwydd proffesiynoldeb deuol fel un o egwyddorioin arweiniol y safonau newydd yn allweddol. Mae hyn yn cydnabod bod rôl yr ymarferydd DSW yn unigryw ac mae’n bwysig o ran cydnabod cymhlethdod y rôl, a phwysigrwydd dysgu proffesiynol er mwyn gwarchod gwybodaeth alwedigaethol a chryfhau sgiliau dysgu ac asesu. Roedd ein sector yn awyddus i sicrhau bod gwarchod gwybodaeth a phrofiad o’r diwydiant yn dal un un o’r blaenoriaethau allweddol.

Datblygiad pwysig arall yn ein sector dros y blynyddoedd diwethaf yw cynyddu’r nifer sy’n cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Ym mis Ebrill 2017, daeth yn ofynnol am y tro cyntaf i ymarferwyr gofrestru fel gweithwyr proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn yn gam ymlaen ac yn rhywbeth y bu NTfW yn ymgyrchu drosto ers amser, er mwyn sicrhau statws cyfartal.

Croesawyd y cyfle i gofrestru fel gweithwyr proffesiynol gan y sector i raddau helaeth. Mae’n bwysig i DSW fod yn rhan o’r corff proffesiynol sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg a hyfforddiant i gyd, er mwyn rhannu’r un gydnabyddiaeth a statws ag athrawon a darlithwyr. Ac felly mae cyflwyno safonau proffesiynol, ar y cyd â chofrestru proffesiynol, yn arwydd o’r rhan allweddol y mae ein hymarferwyr yn ei chwarae, ac mae’n codi parch a statws y sector DSW, fel rhan werthfawr o’r holl weithlu addysg a hyfforddiant.

Mae datblygiadau fel hyn yn tanlinellu’r newid yn rôl yr ymarferydd DSW, i un sy’n cynnwys mwy o ddysgu a hyfforddi nag erioed o’r blaen. Fel sector, daeth DSW yn gyfarwydd â newid, ond mae rôl yr ymarferydd DSW yn un gymhleth ac mae’n newid ac yn cael ei haddasu yn aml. Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu mwy o brentisiaethau lefel uwch, yr angen i gydymffurfio â dyletswydd Prevent, a phwysigrwydd datblygu sgiliau modern dysgwyr fel y gallant gystadlu yn yr oes ddigidol fel rhan o’r economi fyd-eang yn ddim ond rhai enghreifftiau o’r ffyrdd y mae rôl yr ymarferydd DSW yn mynd yn fwyfwy cymhleth.

Mae NTfW mewn sefyllfa dda i gefnogi’r gweithlu a mynd i’r afael â’r heriau hyn ac rydym yn dal i chwilio am gyfleoedd newydd ar gyfer dyfeisgarwch a thwf proffesiynol ar y daith tuag at ragoriaeth ym myd dysgu seiliedig ar waith. Trwy weithgorau a rhwydweithiau, digwyddiadau hyfforddi a gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae NTfW yn gweithio i roi gwybodaeth i’r rhwydwaith ac i ddarparu addysg broffesiynol er mwyn cynnig rhaglen DSW drawsnewidiol, o ansawdd da, i ddysgwyr a chyflogwyr.

Kelly Edwards, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith NTfW

More News Articles

  —