Luke ymroddgar ar restr fer am wobr uwch brentisiaeth genedlaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

Gwobrwyo Luke Godrich am ei ymroddiad a’i benderfyniad.

Mae cyflogai ymroddedig yn y DVLA yn Abertawe, sy’n gweithio tuag at gymhwyster i weithwyr proffesiynol rheoli adnoddau dynol, ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Mae Luke Godrich, 30 oed, o Dreforys, Abertawe, yn rownd derfynol categori Uwch Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014, a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort ar ddydd Gwener, 31 Hydref.

Trefnir y gwobrau, a rennir yn 13 chategori, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bu rhaid i Luke gydbwyso’i fywyd personol o hyfforddi am hanner marathon a’i gydgyfrifoldeb am fagu ei ferch saith mlwydd oed, Ruby, gyda gofynion rhaglen Uwch Brentisiaeth ddwys o ddwy flynedd o hyd.

Er iddo fod gyda’r DVLA ers naw mlynedd, ni chafodd ei ddewis am gynllun Talent y cwmni tan 2012. Mae hyn wedi golygu dilyn naw modiwl yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, a arweiniodd at NVQ Lefel 5 a Diploma estynedig lefel 5 CMI. Mae Luke yn gweithio tuag at ei CIPD, sef cymhwyster i weithwyr proffesiynol rheoli adnoddau dynol.

“Mae bod yn unig riant i ferch brydferth, hyfforddi am fy hanner marathon a’m gwaith fel oedolyn sy’n dysgu wedi golygu bod rhaid i mi fod yn drefnus, yn ddisgybledig, yn ymroddgar ac yn benderfynol o lwyddo,” meddai.

Mae ei ymroddiad wedi’i arwain at rôl newydd gyda’r Adran Drafnidiaeth gyda mwy o gyfrifoldebau ac oherwydd yr effaith y mae wedi’i chreu, mae ei adran wedi’i henwebu am wobr ac wedi sgorio’n eithriadol mewn arolygon bodlonrwydd staff.

“Rwy’n gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth o’m profiadau’n ysbrydoli pobl eraill i edrych ar brentisiaeth fel ffordd o gyflawni eu nodau o ran gyrfa,” ychwanegodd.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Gall Uwch Brentisiaethau gynnig cymaint â lle mewn prifysgol dda ac mae’n amlwg bod mwy a mwy o ddysgwyr yng Nghymru’n dewis y llwybr hwn. Rhwng 2012-13, crëwyd 2,275 o leoedd Uwch Brentisiaeth yng Nghymru o gymharu â dim ond 280 yn 2011/12.

“Diolch i’w Uwch Brentisiaeth, mae Luke bellach yn symud ymlaen yn gyflym yn ei faes dethol. Mae’n fodel rôl gwych i bobl ifanc sy’n ystyried gyrfa debyg ac rydw i wrth fy modd ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn.”

Mae disgwyl i dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —