Enwebwch diwtor neu mentor sy’n ysbrydoli ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2024

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Tu ôl i bob oedolyn sy’n ddysgwr llwyddiannus mae tiwtoriaid a mentoriaid sy’n ymroddedig i ddarparu dysgu gydol oes, cyfrannu at genedlaethau’r dyfodol a grymuso unigolion a chymunedau i drawsnewid eu bywydau drwy addysg.

Awards banner advert

Caiff y gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru, NTfW, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgol Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.

Mae’r gwobrau yn gyfle arbennig i ddiolch am gyfraniad gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid; peidiwch â cholli’ch cyfle i enwebu unigolyn sy’n ysbrydoli am wobr erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun 15 Ionawr 2024.

Pwy all gael eu henwebu?
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd enwebiadau ar ran tiwtoriaid eithriadol yng Nghymru y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder a’r cymhelliant i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau. Bydd yr unigolion a enwebir yn arddangos ymrwymiad i fynd yr ail filltir i gefnogi oedolion yn eu haddysg a’u llwybrau gyrfa, a’u llesiant cyffredinol.

Cyflwynwch enwebiad ar gyfer tiwtor neu fentor o’r lleoliadau dilynol:
Addysg Uwch, Addysg Bellach, Lleoliad Gweithle, Addysg Gymunedol, Cymraeg i Oedolion neu Ysgol neu unrhyw leoliad addysgol arall.

Sut i gyflwyno eich cais:
1. Darllen y canllawiau cyn dechrau ar eich enwebiad

2. Llenwi ffurflen enwebu Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid

3. Anfon eich ffurflen enwebu ar ôl ei llenwi at inspire@learningandwork.org.uk. Os oes gennych unrhyw ddogfennau cefnogi, anfonwch nhw yn yr un neges e-bost os gwelwch yn dda.

Yn lle hynny, gellir anfon cynigion yn defnyddio’r ffurflen enwebu ar-lein.

Mae mwy o wybodaeth am y gwobrau ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid, anfonwch e-bost at y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn: inspire@learningandwork.org.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —