Lobïo cyflogwyr a gwleidyddion ynghylch toriadau “trychinebus” i brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae cyflogwyr, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol ledled Cymru yn ymwybodol erbyn hyn o fwriad Llywodraeth Cymru i dorri 24.5% – sy’n cyfateb i £38 miliwn – o’r gyllideb brentisiaethau. Mae’r bwriad yn un “trychinebus” yn ôl darparwyr hyfforddiant.

Keepak Manager cutting a joint of meat with staff standing in the background

Canol: Henry Lawson, cigydd dan hyfforddiant gyda’r Kepak Group.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi bod yn gweithio rownd y cloc i ledaenu’r neges am yr effaith enfawr a gaiff y toriadau arfaethedig ar fusnesau, pobl ifanc a darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Mae dadansoddiad manwl gan yr NTFW yn awgrymu:

  • y bydd tua 10,000 o brentisiaethau’n cael eu colli yn 2024/25 – cwymp o tua 50% a’r gostyngiad cyflymaf mewn cyfleoedd hyfforddi ers datganoli.
  • bod y toriad arfaethedig o 24.5% – £38m – yn gyfuniad o doriad o 3.65% i gyllideb prentisiaethau a cholli’r cyllid a arferai ddod o’r Undeb Ewropeaidd.
  • y byddai’r toriadau’n effeithio mewn modd anghymesur ar bobl ifanc 16-24 oed, pobl yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf, menywod, a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • yr effeithir ar gwmnïau angori sy’n dymuno ehangu eu prentisiaethau ac ar fewnfuddsoddi newydd gan fusnesau.
  • y daw’r toriadau arfaethedig ar ben yr £17.5m a dorrwyd yn ddiweddar o gyllideb prentisiaethau.

Mae’r NTFW a ColegauCymru wedi ysgrifennu ar y cyd at wleidyddion a chyflogwyr gan roi gwybod iddynt am yr effaith ar brentisiaethau.

Mae cyfarwyddwr strategol yr NTFW Lisa Mytton yn parhau i siarad â Llywodraeth Cymru ond nid oes arwyddion o dro pedol na lleihad yn y toriadau ar hyn o bryd.

“Rhaid i ni ddiolch i’r llu o gyflogwyr sydd wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn mynegi eu pryder yn y termau cryfaf posib am y toriadau arfaethedig i’r gyllideb brentisiaethau,” meddai. “Rydym wedi cael cefnogaeth aruthrol.

“Mae rhai wedi holi sut y gallai’r gweinidog flaenoriaethu sgiliau a phobl ifanc yn ei ddatganiad cenhadaeth ar yr economi yn ddiweddar a thorri cyllideb prentisiaethau ar yr un pryd. Fel holl aelodau’r NTFW, mae cyflogwyr o’r farn bod ei ddatganiad yn gwrth-ddweud realiti’r sefyllfa.

“Bydd yr effaith yn enfawr ar gyflogwyr sy’n talu’r ardoll brentisiaethau ac ar gyfleoedd miloedd o bobl ifanc ar gychwyn eu gyrfa.

“Dydi hi ddim yn rhy hwyr i Lywodraeth Cymru osgoi niwed trychinebus a di-droi’n-ôl i’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.

“Mae sgiliau ac addysg bellach yn sylfaenol i’n hadferiad economaidd. Dyma’r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr a’n gweithwyr.”

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —