
Enwebwch diwtor neu mentor sy’n ysbrydoli ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2024
Tu ôl i bob oedolyn sy’n ddysgwr llwyddiannus mae tiwtoriaid a mentoriaid sy’n ymroddedig i ddarparu dysgu gydol oes, cyfrannu at genedlaethau’r dyfodol a grymuso unigolion a chymunedau i drawsnewid eu bywydau drwy addysg.
Caiff y gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru, NTfW, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgol Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.
Mae’r gwobrau yn gyfle arbennig i ddiolch am gyfraniad gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid; peidiwch â cholli’ch cyfle i enwebu unigolyn sy’n ysbrydoli am wobr erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun 15 Ionawr 2024.
Pwy all gael eu henwebu?
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd enwebiadau ar ran tiwtoriaid eithriadol yng Nghymru y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder a’r cymhelliant i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau. Bydd yr unigolion a enwebir yn arddangos ymrwymiad i fynd yr ail filltir i gefnogi oedolion yn eu haddysg a’u llwybrau gyrfa, a’u llesiant cyffredinol.
Cyflwynwch enwebiad ar gyfer tiwtor neu fentor o’r lleoliadau dilynol:
Addysg Uwch, Addysg Bellach, Lleoliad Gweithle, Addysg Gymunedol, Cymraeg i Oedolion neu Ysgol neu unrhyw leoliad addysgol arall.
Sut i gyflwyno eich cais:
1. Darllen y canllawiau cyn dechrau ar eich enwebiad
2. Llenwi ffurflen enwebu Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid
3. Anfon eich ffurflen enwebu ar ôl ei llenwi at inspire@learningandwork.org.uk. Os oes gennych unrhyw ddogfennau cefnogi, anfonwch nhw yn yr un neges e-bost os gwelwch yn dda.
Yn lle hynny, gellir anfon cynigion yn defnyddio’r ffurflen enwebu ar-lein.
Mae mwy o wybodaeth am y gwobrau ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid, anfonwch e-bost at y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn: inspire@learningandwork.org.uk
More News Articles
« Yma, mae Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, yn esbonio sut y gall busnesau oresgyn anawsterau cyflogi trwy fuddsoddi yn eu staff presennol — Lobïo cyflogwyr a gwleidyddion ynghylch toriadau “trychinebus” i brentisiaethau »