Ymunwch ag ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion #PaidStopioDysgu
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (DaG) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn cydlynu ymgyrch flynyddol Wythnos Addysg Oedolion a gynhelir eleni rhwng 15 a 21 Medi gyda gweithgareddau hyrwyddo drwy gydol y mis.
Nod yr ymgyrch yw cysylltu oedolion â dewis eang o gyfleoedd dysgu, am ddim, a dathlu cyflawniadau ysbrydoledig pobl, prosiectau cymunedol a chyrff yng Nghymru sy’n ymroi i ddysgu gydol oes.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd cyrff o wahanol sectorau i adeiladu rhaglen gyffrous o gyfleoedd dysgu, gyda sesiynau blasu ar-lein ac wyneb yn wyneb, cyrsiau byr, diwrnodau agored, gwybodaeth am yrfaoedd, a digwyddiadau arbennig sy’n estyn allan at gymunedau ledled Cymru.
Bydd partneriaeth yr ymgyrch yn ymgysylltu ag oedolion ac yn eu hysbrydoli i gymryd cam yn ôl i fyd dysgu a cheisio cyfleoedd newydd i wella’u hyder a’u llesiant, newid gyrfaoedd, ffynnu yn eu gwaith, a bod yn angerddol dros ddysgu ar hyd eu hoes.
Cymerwch olwg ar themâu’r ymgyrch eleni i sbarduno’ch syniadau ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion.
Dydd Llun 15 Medi: Lleisiau Dysgwyr
Dydd Mawrth 16 Medi: Cydweithio a Chysylltu
Dydd Mercher 17 Medi: Sgiliau ar gyfer Gwaith a Dilyniant
Dydd Iau 18 Medi: Sgiliau Hanfodol
Dydd Gwener 19 Medi: Iechyd a Llesiant
Hefyd, mae croeso i bartneriaid yn yr ymgyrch drefnu gweithgareddau i gyd-fynd â’u gweledigaeth unigryw nhw, ar wahanol ddyddiau. Os hoffech drafod eich syniadau gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, cysylltwch â alwevents@learningandwork.org.uk.
Sut mae cymryd rhan?
- Os yw’ch sefydliad chi’n newydd i’r ymgyrch, llanwch Ffurflen Rhanddeiliaid Ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion i nodi’ch diddordeb a’i hanfon i alwevents@learningandwork.org.uk.
- Os ydych wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch o’r blaen, gwiriwch eich bod wedi cofrestru ar blatfform Wythnos Addysg Oedolion, neu mewngofnodwch yn syth i’ch cyfrif i nodi’ch cwrs, eich digwyddiad, neu’ch rhestr adnoddau. Cofiwch, mae angen uwchlwytho’r holl gynnwys yn Gymraeg a Saesneg.
Os byddwch yn methu mynd i mewn i’ch cyfrif neu gofio’ch manylion mewngofnodi, neu os oes gennych ryw gwestiwn am eich cyfrif, ebostiwch alwevents@learningandwork.org.uk.
Gwneud cais i gronfa’r ymgyrch:
Mae’r Gronfa Arloesi ar gael ar gyfer darparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgareddau yn y gymuned, digwyddiadau hyrwyddo neu sesiynau blasu ar-lein ar gyfer wythnos yr ymgyrch a thrwy gydol mis Medi 2025.
Mae DaG yn croesawu ceisiadau ar gyfer gweithgareddau amrywiol, fel sesiynau blasu byr, di-dal, ar-lein neu wyneb yn wyneb, digwyddiadau dysgu, dyddiau agored, gweithgareddau yn y gymuned, dosbarthiadau meistr, llais y dysgwr neu ddysgu fel teulu, gan ganolbwyntio’n neilltuol ar:
- Mynd i’r afael â rhwystrau i gyfranogiad a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
- Bobl heb lawer o sgiliau na chymwysterau.
- Creu partneriaethau gyda gofal iechyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac i gydnabod bod gan ddysgu a sgiliau ran bwysig i’w chwarae er mwyn cael bywyd iach.
- Adeiladu ar frwdfrydedd dysgwyr presennol i fod yn eiriolwyr sy’n defnyddio’u llais a’u cysylltiadau i annog eu cymunedau eu hunain i gymryd rhan.
- Meithrin diwylliant cadarnhaol o ddysgu, gan ysgogi cynifer o oedolion ag y bo modd i weld gwerth a manteision cymryd rhan a symud ymlaen i fwy o ddysgu.
Rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn 25 Gorffennaf 2025.
Cewch ragor o wybodaeth am yr ymgyrch ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgyrch, cysylltwch â: alwevents@learningandwork.org.uk.
More News Articles
« Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn dyfarnu cyllid i Fenter Addysgol Arloesol — Cefnogi Dysgwyr a Chyfleoedd i Rannu’ch Barn »


