Lydia’r asesydd yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o reolwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Lydia Harris wedi datblygu gyrfa lwyddiannus yn hyfforddi rheolwyr.

Hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a sgiliau trefnu da – dyna rai elfennau sy’n allweddol i lwyddiant Lydia Harris yn hyfforddi rheolwyr.

A hithau wedi gweithio i JGR Training, Pen-y-bont ar Ogwr ers degawd, bu gan Lydia nifer o gleientiaid blaenllaw, fel y Senedd a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd Lydia, sy’n 37 oed: “Roedd fy enwebiad ar gyfer gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn dipyn o sioc ond mae’n braf cael eich cydnabod ac rwy’n credu fy mod wir yn mynd yr ail filltir yn fy ngwaith.”

Yn ddiweddar, daeth Lydia’n gyfrifol am waith Sgiliau Hanfodol JGR, mae wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac mae’n gweithio tuag at Ddiploma Lefel 4 y
Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Yn awr, mae Lydia wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Man cychwyn Lydia a’r peth pwysicaf iddi, fel asesydd, yw sicrhau ei bod yn deall anghenion ei dysgwyr ac yna’i bod yn creu ac yn cyflwyno cynllun dysgu unigol i’w helpu i gyrraedd eu targedau.

Gan fod ganddi gleientiaid amrywiol iawn, mae Lydia’n treulio amser yn dysgu am wahanol ddiwydiannau ac yn dod i’w deall nhw a’r jargon sy’n gysylltiedig â phob busnes.

Dywed bod ei chyfarfodydd misol gyda’r Quality Skills Alliance a sesiynau diweddaru Sgiliau Hanfodol bob chwarter yn ei helpu i feithrin ei sgiliau ei hunan. Bu dysgu i ddefnyddio Microsoft Teams yn enghraifft dda o hyn oherwydd bu’n rhaid i Lydia gefnogi ei dysgwyr yn ystod y pandemig a hithau’n gweithio gartref ym Maesteg.

Dywedodd cyd-asesydd iddi gyda JGR Training, Lisa Moore: “Mae Lydia’n ymddwyn fel mentor i’r tîm hyfforddi. Yn aml iawn, hi yw’r cyntaf i arbrofi â thechnolegau newydd a sôn wrth eraill am arferion gorau a syniadau defnyddiol.”

Ac meddai Delyth Lewis, sy’n gweithio tuag at gymhwyster ILM Lefel 4: “Heb amynedd ac arbenigedd Lydia, fyddwn i ddim wedi cael y fath flas ar ddysgu nac wedi bod mor frwd.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —