Hannah wrth ei bodd yn gweld ei dysgwyr yn ffynnu ac yn llwyddo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Hannah Kane-Roberts – pob dysgwr yn haeddu cyfle.

Un o’r pethau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i Hannah Kane-Roberts yw cefnogi dysgwyr ar eu taith a’u gweld yn ffynnu ac yn llwyddo.

Tiwtor ieuenctid yng nghanolfan y darparwr dysgu seiliedig ar waith Itec yng Nghaerdydd yw Hannah, 27, o Sblot, Caerdydd. Yno, mae’n gweithio gyda dysgwyr sy’n cael trafferth ymgodymu ag addysg ac sy’n wynebu nifer o rwystrau ym maes addysg a gwaith.

Gall Hannah ymfalchïo bod 80% o’i dysgwyr yn llwyddo i symud ymlaen i waith, prentisiaeth neu ddysgu pellach a’i bod wedi sicrhau cyfradd lwyddiant o 100% yn y cymhwyster cyflogadwyedd y mae’n ei ddarparu ar gyfer ei dysgwyr.

Caiff rhaglen ddysgu a datblygu pob unigolyn ei theilwra’n arbennig iddo ef neu hi diolch i gyfraniad Hannah at adolygu ac ailwampio cwricwlwm Hyfforddeiaethau Itec mewn partneriaeth â dysgwyr, yn 2019.

Yn awr, mae gwaith Hannah wedi’i gydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer am wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Cychwynnodd Hannah ei gyrfa gydag Itec yn 2016 fel gwirfoddolwr cyn symud ymlaen i fod yn weithiwr cymorth dysgu ychwanegol, yn gymhorthydd dosbarth, yn anogwr dysgwyr ac yna’i swydd bresennol.

A hithau’n frwd o blaid datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), mae wedi ennill cymhwyster Lefel 4 Anogwr Dysgu, gradd BSc (Anrhydedd) mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a Thystysgrif Addysg i Raddedigion.

Mae Hannah yn cefnogi cydweithwyr â’u DPP ac mae’n un dda iawn am drefnu i sefydliadau allanol ddod yn bartneriaid i helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau ym myd gwaith.

Yn ystod y cyfnodau clo, fe wnaeth y defnydd gorau o blatfformau digidol i sicrhau bod ei dysgwyr yn dal i symud ymlaen ac aeth ati i lunio canllawiau i diwtoriaid a dysgwyr ar ddefnyddio platfformau digidol.

“Wrth addysgu pobl rwy’n gallu dal ymlaen i ddysgu fy hunan ond, yn bwysicaf oll, rwy’n gallu annog pob dysgwr i feddwl y tu hwnt i’w cylch cysur a’u herio i gyrraedd eu llawn botensial,” meddai Hannah. “Rwy’n credu’n gryf bod pob dysgwr yn haeddu cyfle, beth bynnag yw eu sefyllfa bresennol neu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu.”

Dywedodd Esther Barnes, cyfarwyddwr adnoddau dynol Itec: “Mae Hannah yn uchel ei pharch ymhlith ei dysgwyr a’i chydweithwyr ac mae’r dysgwyr yn ymateb yn gadarnhaol iawn iddi. Trwy bersonoli’r gwaith, mae pob dysgwr yn cael ei drin fel unigolyn a does dim dau ddysgwr yn mynd ar yr un daith.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allwed
dol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —