Mamau ifanc yw pencampwyr Cymru yn Her Arian am Oes, Banc Lloyds

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae tîm o famau ifanc o Gaerdydd wedi’u coroni’n bencampwyr Cymru yn Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group sy’n ceisio ysbrydoli cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau trafod arian.

Bethan Johnson (chwith) ac Amber Poole o dîm Fashion on a Budget a’r tlws a gawsant am ennill Rownd Derfynol Cymru yr Her Arian am Oes.

Y tîm Fashion on a Budget ddaeth i’r brig o blith pum tîm cryf yn rownd derfynol Cymru a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddoe (dydd Mawrth). Yno, cawsant gyflwyno’u prosiect rheoli arian i banel o feirniaid o fri.

Tîm o ferched 17-19 oed o raglen wrth-dlodi Cymunedau Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn (ECLP) yw Fashion on a Budget ac aethant ati i greu sioe ffasiynau o’r enw ‘Style yourself on a budget’ gan ddefnyddio dillad wedi’u prynu o siopau elusen yn unig. Roedd y sioe’n mynd i’r afael â’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig â phrynu dillad ail-law trwy ddangos bod pethau da i’w cael mewn siopau elusennau am brisiau fforddiadwy.

Cawsant £1,000 i’w roi i elusen o’u dewis nhw ac fe gafodd pob aelod o’r tîm dalebau siopa gwerth £50. Yn awr, byddant yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog Arian am Oes yng nghanolfan O2 yn Llundain ar 15 Mai. Yno, byddant yn cystadlu yn erbyn pencampwyr Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban am deitl prif enillwyr y flwyddyn.

“Rydyn ni wedi rhoi gymaint i’r prosiect hwn, roedden ni wrth ein bodd i ennill ac i gael cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig,” meddai Bethan Johnson, 19 oed, o Lanedern. “Mae’n hwb enfawr i’n hyder ni. Doedd gennym ni ddim syniad pa mor fawr yw’r gystadleuaeth.”

Rhoddodd Bethan ac Amber Poole, 18, o Lynebwy, gyflwyniad i’r panel beirniaid. Roedd aelodau eraill y tîm, Louisha Ware, 17 oed, a Katie Renshaw, 19 oed, yn methu bod yno oherwydd salwch ac argyfwng yn y teulu.

Y Cyflwynydd, Jason Mohammad, yn cael sesiwn goluro gyda Bethany Browning (dde) a Mary Thomas, o dîm Broke but Beautiful, Coleg Pen-y-bont a enillodd Wobr y Bobl yn Rownd Derfynol Cymru, Her Arian am Oes.

Tîm arall a fydd yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog y DU fydd Broke but Beautiful o Goleg Pen-y-bont a enillodd Wobr y Bobl trwy bleidlais y gynulleidfa yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd. Bu criw o fyfyrwyr yn gweithio ar brosiect i ddysgu pobl sy’n derbyn budd-daliadau sut i arbed arian ar ffasiwn a harddwch.

Gan feddwl pa mor bwysig yw edrych yn daclus wrth fynd i gyfweliadau am swyddi, roedd y prosiect yn ceisio hybu hyder pobl ddi-waith. Defnyddiwyd Facebook, Twitter a YouTube i hybu’r prosiect a chynhaliwyd stondin y tu allan i’r Ganolfan Waith leol i rannu awgrymiadau gyda phobl oedd yn chwilio am swyddi.

Yn ogystal, penderfynodd y beirniaid yn y fan a’r lle roi gwobr o £300 i Dîm Annibyniaeth Ariannol V21, sef grŵp o fyfyrwyr 23 a 24 oed o Vision 21, sy’n elusen yng Nghaerdydd. Fe wnaethon nhw greu gêm fwrdd i helpu oedolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i ddeall pethau fel adnabod darnau arian, costau byw, trefnu eu harian a chynilo.

V21 Financial Independence Team

Roedd 11 tîm yn cystadlu yn rownd derfynol Cymru. Sefydlwyd eu prosiectau ym mis Ionawr pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Dewiswyd nhw i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl dangos i feirniaid Her Arian am Oes bod y gallu ganddynt i wella eu sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a sgiliau eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau hefyd.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Y peth a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid oedd angerdd yr holl dimau dros ddweud wrth eraill beth yr oedden nhw wedi’i ddysgu. Mae mwy i’r rhaglen hon na chael pobl i ddysgu drostyn nhw’u hunain; mae’n rhoi pwyslais ar ddysgu pobl eraill, ymestyn i’r gymuned ac ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am reoli arian.

“Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn golygu bod y timau hyn yn cyflwyno’u hangerdd dros addysg ariannol i gymunedau ehangach am amser maith i ddod.”

Cafodd Her Arian am Oes ei chydlynu a’i chyflenwi gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu’r dudalen Facebook, www.facebook.com/moneyforlifeuk a Twitter, www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —