Dysgwyr o Gasnewydd yn agos at y brig yn rownd derfynol Cymru, Her Arian am Oes, Banc Lloyds

Postiwyd ar gan karen.smith

Roedd tîm o ddysgwyr o Gasnewydd yn agos at y brig yn Rownd Derfynol Cymru, Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group sy’n ceisio ysbrydoli cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau trafod arian.

Roedd tîm Money Monkeys, sef dysgwyr 17 a 18 oed o ITEC sy’n darparu hyfforddiant yng Nghasnewydd, yn un o bum tîm yn rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ddoe (dydd Mawrth).

David Rowsell, pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group, yn cyflwyno tystysgrifau i aelodau o dîm Money Monkeys.

Sefydlodd y tîm eu prosiect ym mis Ionawr, pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Dewiswyd nhw i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl dangos i’r beirniaid bod y gallu ganddynt i wella eu sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a sgiliau eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau hefyd.

Prosiect ymwybyddiaeth ariannol yw Money Monkeys a’u nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau ariannol a’r annibyniaeth y mae arnynt eu hangen wrth dyfu’n oedolion.

Buont yn targedu ysgolion uwchradd a chanolfannau hyfforddi ledled y de gan ddosbarthu pecynnau adnoddau’n dweud lle i gael cyngor ac yn cynnal gweithgareddau difyr. Cawsant gefnogaeth ASau ac elusennau ariannol ar y ffordd.

Pencampwyr Cymru oedd tîm Fashion on a Budget, criw o bobl ifanc 17-19 oed o raglen wrth-dlodi yng Nghaerdydd. Enillwyr Gwobr y Bobl oedd Broke but Beautiful o Goleg Pen-y-bont.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Y peth a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid oedd angerdd yr holl dimau i ddweud wrth eraill beth yr oedden nhw wedi’i ddysgu. Mae mwy i’r rhaglen hon na chael pobl i ddysgu drostyn nhw’u hunain; mae’n rhoi pwyslais ar ddysgu pobl eraill, ymestyn i’r gymuned ac ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am reoli arian.

“Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn golygu bod y timau hyn yn cyflwyno’u hangerdd dros addysg ariannol i gymunedau ehangach am amser maith i ddod.”

Cafodd Her Arian am Oes ei chydlynu a’i chyflenwi gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu’r dudalen Facebook, www.facebook.com/moneyforlifeuk a Twitter, www.twitter.com/moneyforlifeuk.

More News Articles

  —