Naw ar restr fer Gwobrau VQ Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Dewiswyd naw i’r rowndiau terfynol o blith nifer o gynigion o ansawdd uchel yng Ngwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru eleni.

Bydd tri chwmni yn cystadlu am Wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn a bydd chwech unigolyn ar restr fer Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo anrhydeddus a gaiff ei chynnal ar Fehefin 4, Diwrnod VQ, yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw. Dathliad cenedlaethol yw Diwrnod VQ o bobl sydd wedi llwyddo ym myd addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Yn dilyn llwyddiant Tomi Jones, Dysgwr VQ y Flwyddyn y llynedd a pherchennog Cigydd Jones’s, Llangollen, mae cigydd ifanc arall o ogledd Cymru yn gobeithio y bydd ganddo’r arlwy o’r ansawdd uchaf eleni.

Cafodd Matthew Edwards, 22 oed, sy’n brentis o gigydd gyda Chigydd Teuluol S. A. Vaughan, Penyffordd, ger Caer, ei enwebu gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, ac mae’n un o’r chwech ar y rhestr fer.

Yn ei erbyn ar y rhestr fer y mae Ashleigh Zeta Jones, 22 oed, a Rhys Sinfield, ill dau wedi eu henwebu gan Goleg Penybont, Corey Nixon a enwebwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe, Ebbi Ferguson a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli, ac Emma Thomas, perchennog meithrinfa yn Sanclêr, a enwebwyd gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes a Hyfforddiant Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe.

Diben Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yw rhoi cydnabyddiaeth i ddysgwyr sy’n dangos cynnydd a rhagoriaeth amlwg ym myd astudiaethau galwedigaethol ac a sicrhaodd gyraeddiadau sylweddol yn eu maes.

Yn cystadlu am Wobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn y mae cartref gofal Cwrt Hengoed, Abertawe, darparwr gofal cartref Trusting Hands, Glyn Ebwy, a Village Bakery, Wrecsam.

Mae Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn yn rhoi cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy’n hybu gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn i wella sgiliau a’r gallu i gystadlu yn genedlaethol.

Menter a sefydlwyd gan elusen addysg annibynnol Sefydliad Edge yw Diwrnod VQ, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o’r rôl sydd i addysg dechnegol, ymarferol a galwedigaethol yn y gymdeithas ac yn economi’r Deyrnas Unedig.

Mae Diwrnod VQ yn cefnogi’r dyhead y dylai cymwysterau galwedigaethol, nad ydynt ar gyfer pobl ifanc yn unig, ennyn yr un parch â llwybrau addysgol eraill.

Dymunodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru, bob llwyddiant i’r naw ar Fehefin 4. “Cymwysterau Galwedigaethol yw’r safon aur o ran rhagoriaeth broffesiynol a rhaid i ni sicrhau y cânt eu cydnabod ochr yn ochr â chymwysterau academaidd am eu gwerth i economi Cymru.

“Mae yng Nghymru gyfoeth go iawn o bobl ddawnus ac ymroddgar sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau galwedigaethol ac mae Diwrnod VQ yn gyfle i ni ddathlu eu cyraeddiadau. Mae gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; y mae’n arwydd o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn.

“Y mae hefyd yr un mor bwysig ein bod yn cydnabod rôl cyflogwyr yn y gwaith o hyrwyddo cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle. Bydd eu cefnogaeth a’u hymrwymiad yn allweddol er mwyn i ni gyflawni ein huchelgais o greu Cymru sy’n fwy medrus.”

Caiff darparwyr addysg ledled Cymru eu hannog i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ a chreu cyswllt â dysgwyr o bob oed. Caiff Diwrnod VQ a Gwobrau VQ yng Nghymru eu cydlynu gan GolegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a chânt eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —