Matt yn defnyddio’i brofiad yn y diwydiant creadigol cystadleuol i hyfforddi prentisiaid

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Matt Redd, dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol.

Ar ôl treulio dros 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd y diwydiannau creadigol sy’n newid mor gyflym, mae Matt Redd yn deall yn iawn beth yw anghenion hyfforddi pobl sy’n cychwyn ar yrfa yn y busnes.

Ac yntau’n awdur ac yn gynhyrchydd dramâu ffilm a theledu, bu Matt, sy’n 41 oed, yn gweithio i’r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru ers pum mlynedd, yn asesydd llawrydd ar Brentisiaethau yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Bu’n asesu prentisiaid gwisgoedd ar Pobol y Cwm, prentisiaid digidol ar raglenni ffeithiol yn ITV a phrentisiaid ôl-gynhyrchu oedd yn golygu Casualty, ymhlith eraill. Mae’n sicrhau bod ei ddulliau asesu’n cyd-fynd ag arferion gweithio pob cynhyrchiad, gan ymwneud â’r dysgwyr yn eu gweithle heb amharu ar y gwaith.

Yn awr, mae wedi’i gydnabod am ei waith trwy gyrraedd y rhestr fer am wobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Yn ddiweddar, bu Matt, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn cydweithio â dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain i helpu prentis ifanc dwys-fyddar i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus gan roi’r un rhyddid iddo ef ag i eraill yn yr un rôl.

Nid yw’n syndod ei fod ef, fel llawer o ddysgwyr Matt, wedi cwblhau ei brentisiaeth yn gynnar.

Mae Matt yn rhedeg ei gwmni cynhyrchu ei hunan, Standoff Pictures Ltd, sy’n cydweithio’n agos â Sgil Cymru a Stiwdios Seren Great Point. Ac oddi yno ac o stiwdios gweithiol eraill y mae’n rhedeg dyddiau recriwtio lle gwahoddir darpar brentisiaid i gyfarfod â chyflogwyr posibl.

Dywedodd Matt: “Mae mwy i brentisiaethau na chymhwyster; maent yn fan cychwyn ar gyfer datblygu doniau mewn diwydiant heriol ac eithriadol gystadleuol lle mae cysylltiadau’n hanfodol.”

Dywedodd pennaeth hyfforddiant Sgil Cymru, Nadine Roberts: “Mae Matt yn gallu cydbwyso’r angen i addasu i ofynion y dysgwyr â’r angen i ymestyn eu galluoedd. Mae’n gosod safonau uchel iddo’i hunan a’i ddysgwyr.”

Dywedodd Lewis Stephens, a gwblhaodd brentisiaeth yn llwyddiannus o dan ofal Matt: “Gwnaeth Matt hi’n eithriadol o hawdd i mi ddeall beth roedd angen ei wneud ym mhob uned. Doedd gen i ddim profiad o gwbl ar y dechrau ac nawr mae gen i swydd gyda’r BBC. Matt wnaeth hyn yn bosibl.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —