Matt, yr asesydd prensiaethau yn ennill gwobr genedlaethol o bwys

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Matt Redd, Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae dyn sydd wedi treulio dros 20 mlynedd yn gweithio ar flaen y gad ym myd y diwydiannau creadigol wedi ennill gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru.

Cyhoeddwyd y newyddion am lwyddiant Matt Redd yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhaliwyd yn rhithwir am y tro cyntaf ar 17 Mehefin.

Ac yntau’n awdur ac yn gynhyrchydd dramâu ffilm a theledu, bu Matt, 41, o Gaerdydd, yn gweithio i’r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru ers pum mlynedd, yn asesydd llawrydd ar Brentisiaethau yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Mae ei waith wedi cynnwys asesu prentisiaid gwisgoedd ar Pobol y Cwm, prentisiaid digidol ar raglenni ffeithiol yn ITV a phrentisiaid ôl-gynhyrchu oedd yn golygu Casualty.

Mae’n sicrhau bod ei ddulliau asesu’n cyd-fynd ag arferion gweithio pob cynhyrchiad, gan ymwneud â’r dysgwyr yn eu gweithle heb amharu ar y gwaith.

Wrth ymateb i’w lwyddiant, dywedodd Matt: “Rwy’n teimlo’n hapus iawn, yn llawn cyffro ac yn freintiedig o fod wedi ennill y wobr mewn maes mor gystadleuol. Mae’n cadarnhau gwerth y gwaith rydym yn ei wneud yn Sgil Cymru i baratoi prentisiaid ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru.

“Mae gan bawb sy’n gweithio yn Sgil Cymru brofiad helaeth ac mae’n deimlad cyffrous cael bod yn rhan o’r tîm.”

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Yn ddiweddar, bu Matt yn cydweithio â dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain i helpu prentis ifanc dwys-fyddar i deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus gan roi’r un rhyddid iddo ef ag i eraill yn yr un rôl.

Nid yw’n syndod ei fod ef, fel llawer o ddysgwyr Matt, wedi cwblhau ei brentisiaeth yn gynnar.

Mae Matt yn rhedeg ei gwmni cynhyrchu ei hunan, Standoff Pictures Ltd, sy’n cydweithio’n agos â Sgil Cymru a Stiwdios Seren Great Point. Ac oddi yno ac o stiwdios gweithiol eraill y mae’n rhedeg dyddiau recriwtio lle gwahoddir darpar brentisiaid i gyfarfod â chyflogwyr posibl.

Dywedodd Lewis Stephens, a gwblhaodd brentisiaeth yn llwyddiannus o dan ofal Matt: “Gwnaeth Matt hi’n eithriadol o hawdd i mi ddeall beth roedd angen ei wneud ym mhob uned. Doedd gen i ddim profiad o gwbl ar y dechrau ac nawr mae gen i swydd gyda’r BBC. Matt wnaeth hyn yn bosibl.”

Wrth longyfarch Matt, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —