Sefydlu Grŵp Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl
Mae Hyfforddiant Cambrian wedi sefydlu Grŵp Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl i gynnig cefnogaeth a rhannu gwybodaeth â’u staff.
Cynhaliwyd arolwg staff a ddangosodd fod addasu yn ôl i fyd gwaith ar ôl Covid wedi effeithio ar iechyd meddwl a lles aelodau. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn, rhoddodd y darparwr hyfforddiant strategaeth ar waith i fuddsoddi mewn hyfforddiant a pholisi.
Y prif amcanion oedd cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith staff a’u gwneud yn llai cyndyn o drafod iechyd meddwl a’r effaith y gall ei gael ar berfformiad gwaith.
Mae cael dweud wrth rywun sut rydych chi’n teimlo a chael sicrwydd nad ydych ar eich pen eich hun yn gallu bod o gymorth mawr.
Cafodd nifer o staff hyfforddiant arbenigol i ddod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, ac arweiniodd hynny at ffurfio grŵp hyrwyddwyr.
Dywedodd Jackie, un o Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl a Llesiant cwmni Hyfforddiant Cambrian, “Dydi iechyd meddwl ddim yn rhywbeth y gallwch ei weld. Dydi o ddim fel torri braich. Mae angen i ni gofio nad yw bob amser yn amlwg bod pobl yn cael trafferth.
“Mae’r cyfle i fod yn hyrwyddwr iechyd meddwl yn golygu y gallaf helpu eraill yn broffesiynol ac yn bersonol i gael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen yn gyflym.”
Mae’r hyrwyddwyr yn rhannu gwybodaeth ac yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer yr holl staff, fel Diwrnod Paned a Sgwrs yn ddiweddar. Mae hyn yn helpu i ddod â staff at ei gilydd yn y byd hybrid newydd hwn.
More News Articles
« Cefnogi pobl eraill â’u hiechyd meddwl — Y Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid sy’n helpu i newid bywydau pobl ifanc yn union fel ef »