Jenine yn canolbwyntio ar gyflwyno’r gofal gorau ym meithrinfeydd

Postiwyd ar gan karen.smith

Little Inspirations nurseries owner Jenine Gill.

Perchennog Little Inspirations, Jenine Gill.

Hanner stori fyddai dweud bod Jenine Gill yn arwain trwy esiampl. Mae hithau ei hunan, sy’n berchennog ar feithrinfeydd Little Inspirations, gyda 55 aelod o staff dan ei harweiniad yn ogystal â bod yn fam i ddau o blant, wedi cwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Gofal Plant ac NVQ lefel 3 mewn Rheolaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae Jenine yn parhau i ddod o hyd i’r amser i gymryd rhan ymarferol yn y feithrinfa er bod ei thair meithrinfa yn Llantrisant, Rhydyfelin a’r Barri’n swydd rheoli amser llawn.

“Mae gweithio gyda’r plant yn cadw fy nhraed ar y ddaear”, meddai. Mae’n helpu hefyd i mi werthfawrogi’r hyn sydd gan fy nhîm i’w gyflawni a’r heriau a wynebant. Yn Little Inspirations, anogir y staff i ddysgu ar hyd eu gyrfaoedd i sicrhau bod ein plant yn cael y gofal gorau a’n bod ni’n perfformio i’r lefel uchaf.”

Mae ei hymrwymiad i gymwysterau galwedigaethol bellach wedi cael ei gydnabod. Mae e’n un o dri yn y rownd derfynol sydd â gobaith i gael ei enwi’n Gyflogwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

Mae’r cwmni, a sefydlwyd yn 2003, wedi bod yn gweithio gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8 Ltd dros yr wyth mlynedd diwethaf, gyda chyrsiau mewn gofal cwsmeriaid, gofal plant, sgiliau hanfodol, gwaith chwarae a hyfforddiant rheoli’n cael eu cyflwyno yn y meithrinfeydd.
Cynigia Little Inspirations ystod o gyfarpar, adnoddau a chynrychiolydd prentisiaethau dynodedig i’w brentisiaid.

Fel rhan o raglen estyn allan, mae’r prentisiaid yn mynd i mewn i’r gymuned i ymarfer sgiliau cyfweld a siarad mewn ysgolion ynghylch gyrfaoedd mewn gofal plant.

Mae dros 50 o aelodau staff Little Inspirations wedi’u hyfforddi, sydd wedi arwain at lefel uchel o barhad a throsiant staff isel iawn. Ariennir y rhaglenni prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

“Mesurir ein holl hyfforddiant ac wrth i’r staff gwblhau eu rhaglenni, edrychwn iddynt ddod â thri syniad yn ôl i’r feithrinfa. Helpa ein hymrwymiad i hyfforddiant i ni gadw a gwerthfawrogi staff a fydd, o ganlyniad, yn uchel eu cymhelliant i ddysgu a datblygu yn y busnes,” meddai Jenine.

Y cyflogwyr eraill sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ Flwyddyn yw: salon gwallt proffesiynol, Spirit Hair Team o Ystrad Mynach a cynhyrchydd bwyd Dailycer UK o Lannau Dyfrdwy. Mae’r wobr yn cydnabod cyflogwyr sy’n hyrwyddo gwerth cymwysterau galwedigaethol yn y gweithle ac yn gwneud cyfraniad go iawn, o’i gymharu â’u maint, i wella sgiliau a chystadleurwydd cenedlaethol.

Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James y tri chwmni ysbrydoledig sydd yn y rownd derfynol ac mae hefyd yn canmol yr holl gyflogwyr a oedd wedi cynnig am y Gwobrau VQ eleni.

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”

More News Articles

  —