Myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont yn ennill lle yn Rownd Derfynol Fawreddog y DU yn Her Arian am Oes, Banc Lloyds

Postiwyd ar gan karen.smith

Bydd dwy fyfyrwraig o Goleg Pen-y-bont yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group sy’n ceisio ysbrydoli cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau trafod arian.

Tîm Broke but Beautiful – Bethany Browning a Mary Thomas – a enillodd Wobr y Bobl yn rownd derfynol Cymru a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddoe (dydd Mawrth).

Y Cyflwynydd, Jason Mohammad, yn cael sesiwn goluro gyda Bethany Browning (dde) a Mary Thomas, o dîm Broke but Beautiful, Coleg Pen-y-bont a enillodd Wobr y Bobl yn Rownd Derfynol Cymru, Her Arian am Oes.

Gofynnwyd i’r gynulleidfa yn y rownd derfynol bleidleisio dros eu hoff dîm o blith yr 11 oedd yn y rownd derfynol. Bu criw o fyfyrwyr o Golwg Pen-y-bont yn gweithio ar brosiect i ddysgu pobl sy’n derbyn budd-daliadau sut i arbed arian ar ffasiwn a harddwch.

Gan feddwl pa mor bwysig yw edrych yn daclus wrth fynd i gyfweliadau am swyddi, roedd y prosiect yn ceisio hybu hyder pobl ddi-waith. Defnyddiwyd Facebook, Twitter a YouTube i hybu’r prosiect a chynhaliwyd stondin y tu allan i’r Ganolfan Waith leol i rannu awgrymiadau gyda phobl oedd yn chwilio am swyddi.

Daeth dau dîm arall o Goleg Pen-y-bont – Byte Back on a Budget a The £ Factor – yn agos at ennill y wobr hefyd.

“Roedd yn wych cael ennill Gwobr y Bobl achos roedd yn hollol annisgwyl,” meddai Bethany. “Mae’n braf cael ein cydnabod am yr holl ymdrech rydyn ni wedi’i roi i mewn i’r prosiect.”

Fashion on a Budget, tîm o bobl ifanc 17-19 oed o raglen wrth-dlodi Cymunedau Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn (ECLP) enillodd wobr Pencampwyr Cymru. Cawsant £1,000 i’w roi i elusen o’u dewis nhw ac fe gafodd pob aelod o’r tîm dalebau siopa £50.

Yn awr, bydd Fashion on a Budget a Broke but Beautiful yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawreddog Her Arian am Oes yng nghanolfan O2 yn Llundain ar 15 Mai. Yno, byddant yn cystadlu yn erbyn pencampwyr Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Roedd 11 tîm yn cystadlu yn rownd derfynol Cymru. Sefydlwyd eu prosiectau ym mis Ionawr pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Dewiswyd nhw i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl dangos i feirniaid Her Arian am Oes bod y gallu ganddynt i wella eu sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a sgiliau eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau hefyd.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Y peth a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid oedd angerdd yr holl dimau i ddweud wrth eraill beth yr oedden nhw wedi’i ddysgu. Mae mwy i’r rhaglen hon na chael pobl i ddysgu drostyn nhw’u hunain; mae’n rhoi pwyslais ar ddysgu pobl eraill, ymestyn i’r gymuned ac ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am reoli arian.

“Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn golygu bod y timau hyn yn cyflwyno’u hangerdd dros addysg ariannol i gymunedau ehangach am amser maith i ddod.”

Cafodd Her Arian am Oes ei chydlynu a’i chyflenwi gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu’r dudalen Facebook, www.facebook.com/moneyforlifeuk a Twitter, www.twitter.com/moneyforlifeuk.

More News Articles

  —