Myfyrwyr Coleg Cambria yn cyrraedd rownd derfynol Cymru, Her Arian am Oes, Banc Lloyds

Postiwyd ar gan karen.smith

David Rowsell, pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group, yn cyflwyno tystysgrifau i aelodau o dîm Educating Others o Goleg Cambria.

Roedd tîm o fyfyrwyr o Goleg Cambria, Wrecsam yn cystadlu yn Rownd Derfynol Cymru, Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group sy’n ceisio ysbrydoli cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau trafod arian.

Daeth y tîm Educating Others yn agos at ennill Gwobr y Bobl. Pleidleisiau’r gynulleidfa yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ddoe (dydd Mawrth) oedd yn penderfynu ar enillydd y wobr hon.

Denu dysgwyr a’u teuluoedd i fwyta’n iach, i ddysgu sgiliau coginio ac i baratoi bwyd ar gyllideb fechan oedd nod prosiect Educating Others.

Bu myfyrwyr o’r coleg yn cydweithio â disgyblion arlwyo a lletygarwch o Ysgol Uwchradd Rhosesni, Wrecsam i lunio bwydlen iachus a choginio’r bwyd gyda’u cyd-ddysgwyr.

Aethant ati i gymharu prisiau’r holl brydau er mwyn sicrhau bod y dysgwyr yn cadw at eu cyllideb gan godi arian at elusen o’u dewis. Ymhlith y sgiliau a ddysgwyd ar y prosiect roedd paratoi bwyd, coginio, cyflwyno, ymwneud â’u cyd-ddisgyblion, rhifedd, technoleg gwybodaeth, llythrennedd a threfnu arian.

Pencampwyr Cymru oedd tîm Fashion on a Budget, criw o bobl ifanc 17-19 oed o raglen wrth-dlodi yng Nghaerdydd. Enillwyr Gwobr y Bobl oedd Broke but Beautiful o Goleg Pen-y-bont.

Roedd 11 tîm yn cystadlu yn rownd derfynol Cymru. Sefydlwyd eu prosiectau ym mis Ionawr pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Dewiswyd nhw i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl dangos i feirniaid Her Arian am Oes bod y gallu ganddynt i wella eu sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a sgiliau eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau hefyd.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Y peth a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid oedd angerdd yr holl dimau i ddweud wrth eraill beth yr oedden nhw wedi’i ddysgu. Mae mwy i’r rhaglen hon na chael pobl i ddysgu drostyn nhw’u hunain; mae’n rhoi pwyslais ar ddysgu pobl eraill, ymestyn i’r gymuned ac ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am reoli arian.

“Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn golygu bod y timau hyn yn cyflwyno’u hangerdd dros addysg ariannol i gymunedau ehangach am amser maith i ddod.”

Cafodd Her Arian am Oes ei chydlynu a’i chyflenwi gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu’r dudalen Facebook, www.facebook.com/moneyforlifeuk a Twitter, www.twitter.com/moneyforlifeuk.

More News Articles

  —