Prif enillwyr Gwobrau VQ Cymru: Cartref gofal a pherchennog meithrinfa

Postiwyd ar gan karen.smith

Y prif enillwyr yng Ngwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru heddiw (Mehefin 4) oedd merch sy’n ysbrydoli eraill wrth redeg ei meithrinfa ddwyieithog ei hun yn Sir Gaerfyrddin, a chartref gofal yn Abertawe.

Emma Thomas, 28, a sefydlodd meithrinfa Dechrau Disglair yn Sanclêr yn 2011 ac sydd bellach yn cyflogi 24 o staff ac yn gofalu am 35 o blant o dan 7 oed bob dydd , enillodd Wobr Dysgwr VQ y Flwyddyn, a barnwyd mai cartref gofal Cwrt Hengoed, sy’n berchen i Nicola a Tim Williams, yw Cyflogwr VQ y Flwyddyn.

Y ddysgwraig llawn ysbrydoliaeth, Emma Thomas, gyda’i Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn

Roedd y ddau ymhlith naw ar y rhestrau byrion a ddaeth i’r seremoni wobrwyo arbennig ar Gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, ar Ddiwrnod VQ, ac roedd yn achlysur i ddathlu llwyddiannau addysg alwedigaethol yng Nghymru.

Roedd y gwobrwyo yn cyd-daro â chyhoeddi dau adroddiad sgiliau newydd. Datgelodd y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus na fu erioed gymaint o alw am gymwysterau galwedigaethol, gyda 3.6 miliwn o swyddi gwag i bobl grefftus yn agor ledled y DU dros y 10 mlynedd nesaf.

Hefyd, mae adroddiad Arolwg Sgiliau Cyflogwyr Cymru 2013 yn cynnig tystiolaeth bod economi Cymru yn dechrau adfywio ac yn tynnu sylw at y sgiliau y mae eu hangen ar gyflogwyr ledled Cymru mewn gwahanol sectorau a galwedigaethau.

Cyflwynwyd y Gwobrau VQ gan Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Cymru, Ken Skates, ac estynnodd longyfarchiadau i bawb ar y rhestrau byrion am ragori yn eu taith ddysgu alwedigaethol. Galwodd hefyd ar gyflogwyr ac unigolion i gymryd camau cyfrifol ynghylch sgiliau o ystyried canfyddiadau’r ddau adroddiad.
“Y mis nesaf, byddwn yn lansio ein Cynllun Gweithredu Sgiliau, sy’n nodi’r camau y bwriadwn eu cymryd i ddatblygu sgiliau gweithlu Cymru a chynyddu’r lefelau o fuddsoddiad mewn sgiliau,” meddai.

“Mae Diwrnod VQ yn fy atgoffa faint o gyflogwyr a dysgwyr Cymru sydd eisoes yn cymryd y cam ychwanegol hwnnw wrth ddatblygu sgiliau. Mae Gwobr VQ yn fwy na dim ond gwobr; mae’n tystio i ymrwymiad tuag at eich dewis broffesiwn.

“Nid oes gennym fwriad pregethu wrth y cadwedig, ond er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i fuddsoddi yn y sgiliau iawn i lwyddo.”

Stori o lwyddiant a chynnydd galwedigaethol yw un Emma. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed i wireddu ei breuddwyd o redeg ei busnes gofal plant ei hun.
Yn 15 oed, dechreuodd weithio gyda phlant ag anghenion arbennig mewn clwb gwyliau, ac wedi hynny cafodd swydd fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol gynradd, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant o fewn blwyddyn.

Wedyn daeth yn arweinydd clwb ar ôl ysgol gan symud ymlaen i Brentisiaeth mewn Gofal Plant a’i chwblhau yn 2006 tra’n gweithio fel dirprwy reolwraig mewn meithrinfa.

Roedd yn benderfynol o sefydlu ei meithrinfa ei hun, ac aeth ati i brynu ac adnewyddu hen adeilad ysgol yn Sanclêr, gan weithio i amserlen dynn. Gan arwain ei thîm drwy esiampl, yn ddiweddar cwblhaodd Emma ei Phrentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth Gofal Plant a Rheoli Datblygu ac mae’n annog ei holl staff i ddatblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau galwedigaethol.

Dywedodd Emma, a enwebwyd gan Maria Bradbourn, mentor hyfforddi a hyrwyddwyr dwyieithrwydd yng Ngwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Hyfforddi Cyflogaeth Dinas a Sir Abertawe, fod y wobr yn arwydd o “lwyddiant personol gwych” a rhoddodd addewid y byddai’n parhau i ddysgu.

“Rwyf bob amser wrth fy modd yn gweithio gyda phlant ac rwy eisiau bod yn esiampl i fy nhîm,” meddai. “I wneud yn siŵr fy mod yn darparu amgylchedd gofal plant o safon uchel iawn i deuluoedd, mae angen staff o ansawdd uchel arnaf sy’n gwella eu sgiliau yn gyson er mwyn cyflawni eu potensial.”

Perchnogion gorfoleddus Cwrt Hengoed, Nicola a Tim Williams, gyda’u Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn

Mae enillydd gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, Cwrt Hengoed, sydd â gweithlu o 220, wedi datblygu enw da i’w hun ar sail ethos o hybu urddas, preifatrwydd, annibyniaeth a pharch, ac yn sail i hynny mae rhaglen gynhwysfawr o hyfforddi a datblygu staff.

Ers iddo agor ym 1987, mae Cwrt Hengoed wedi cadw llawer o’i staff gwreiddiol, sy’n tystio i’r gefnogaeth a’r cyfleoedd y mae’r perchnogion yn eu cynnig. Bu Nicola a Tim Williams yn cydweithio â Choleg Gŵyr Abertawe dros y saith mlynedd diwethaf i ddarparu a chynnal amrywiaeth o gymwysterau achrededig er mwyn gwella sgiliau’r staff, eu cymell, eu grymuso a’u hysgogi.

Caiff dulliau gofal a hyfforddiant y cartref eu cydnabod gan ddarparwyr gofal eraill a’r awdurdod lleol yn Abertawe, ac mae nifer yn ymweld â’r busnes i rannu arferion gorau.

Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd yr holl staff arlwyo wedi eu hyfforddi i lefel y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Mae pob aelod uwch o staff wedi datblygu i lefel 3 FfCCh, a chyn hir bydd gan yr holl staff gofal gymhwyster FfCCh.

“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’r holl waith caled a’r ymdrech nad yw neb byth yn eu gweld,” meddai Tim, gan ganmol y berthynas y mae’r busnes wedi ei datblygu â Choleg Gŵyr Abertawe.

“Rydyn ni’n gweithio gyda llawer o bobl hyfryd, ac yn gofalu am lawer o bobl hyfryd, a hyfforddiant yw sylfaen ein busnes. Ein profiad ni yw bod dysgu yn sbardun i lawer o bethau a phan fydd pobl yn llwyddo, mae’n eu hysbrydoli i barhau i lwyddo.

“Caiff rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol eu defnyddio i alluogi’r staff i ddilyn llwybr dysgu er mwyn diwallu anghenion y cwmni, cwsmeriaid ac unigolion.

“Rydyn ni bob amser yn chwilio am hyfforddiant arloesol, fel cynnwys gwasanaeth cwsmeriaid a gofal dementia yn rhan o gymwysterau gofal cymdeithasol prif ffrwd, gan gyfuno gofynion statudol ac arferion gorau yn effeithiol.”

Y rhai eraill ar restr fer Gwobr VQ y Flwyddyn oedd Matthew Edwards, prentis o gigydd gyda Chigydd Teuluol S. A. Vaughan, Pen-y-ffordd, ger Caer, a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Ashleigh Zeta Jones a Rhys Sinfield, cogydd, ill dau wedi eu henwebu gan Goleg Pen-y-bont, Corey Nixon a enwebwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe ac Ebbi Ferguson a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli.

Ar restr fer Cyflogwr VQ y Flwyddyn roedd darparwr gofal cartref Trusting Hands o Lyn Ebwy, a chwmni pobi llwyddiannus Village Bakery, Wrecsam.

Mae Diwrnod VQ yn cefnogi’r dyhead i weld cymwysterau galwedigaethol yn ennyn yr un parch â llwybrau addysgol eraill. Daeth darparwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i ddathlu Diwrnod VQ gan greu cyswllt â dysgwyr o bob oed drwy sesiynau blasu rhyngweithiol mewn amrywiaeth o sgiliau ar Gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, a Champws Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria.

Caiff Diwrnod VQ a’r Gwobrau VQ eu cydlynu yng Nghymru gan GolegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chânt eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —