Cysylltu Pobl Ifanc â Chyfleoedd yng Ngogledd Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Group of young people with safety hats in industrial unit.

Mae Adolygiad Milburn yn tynnu sylw at her genedlaethol sy’n tyfu. Mae gormod o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth nac hyfforddiant, ac i lawer mae’r system yn anodd ei llywio. I rai, nid yw’n glir beth sydd ar gael na sut mae’r gwahanol lwybrau’n cysylltu.

Rydym yn gweld heriau tebyg yng Ngogledd Cymru.

Drwy weithdai gyda phobl ifanc ar draws colegau a darparwyr hyfforddiant, fe wnaethom archwilio sut maent yn gweld eu dyfodol, y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Rhoddodd y sesiynau hefyd ddealltwriaeth well i ni o’u profiad o’r system.

Y peth oedd yn sefyll allan oedd pa mor gryf yw’r cysylltiad sydd gan bobl ifanc â’r rhanbarth. Byddai llawer yn dewis aros pe gallent weld dyfodol clir yma.
Ar yr un pryd, mae ansicrwydd ynghylch beth sydd ar gael yn lleol mewn gwirionedd a sut i gael mynediad ato.

Roedd llawer yn ansicr ble i ddechrau. Nid oedd rhai’n gwybod ble i edrych, tra gallai eraill weld opsiynau unigol ond heb allu deall sut maent yn cysylltu nac i ble y gallent arwain. Roedd rolau lefel mynediad yn aml yn cael eu hystyried fel rhai â chynnydd cyfyngedig yn hytrach nag fel cam cychwyn.

Pan nad yw’r darlun ehangach yn glir, mae hynny’n dylanwadu ar sut mae cyfleoedd yn cael eu gweld. Mae’n dod yn haws tybio bod gwell opsiynau mewn mannau eraill, hyd yn oed lle mae mwy ar gael yn lleol nag y mae pobl yn sylweddoli. Roedd pobl ifanc yn glir ynghylch beth fyddai’n helpu:

“Gwneud cyfleoedd lleol yn haws i’w canfod a’u deall” (Adroddiad Mewnwelediadau Ieuenctid 2026 Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru)

I ddarparwyr a chyflogwyr, mae hyn yn tynnu’r ffocws yn ôl at gyfathrebu cymaint ag at ddarpariaeth.

Gall ychydig o gamau ymarferol helpu:

  • gwneud pwyntiau mynediad yn glir, yn enwedig rolau nad oes angen profiad arnynt
  • dangos beth sydd nesaf, nid dim ond y cam cyntaf
  • cadw gwybodaeth yn syml ac yn hawdd ei deall
  • cysylltu hyfforddiant â swyddi go iawn a chyfleoedd lleol

Dyma’r manylion sy’n dylanwadu ar a yw cyfle yn teimlo’n berthnasol ac yn werth ymgeisio amdano.

Mae Portal Sgiliau Gogledd Cymru wedi’i gynllunio i gefnogi hyn. Mae’n dod â swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd o bob cwr o’r rhanbarth at ei gilydd mewn un lle, gan ei gwneud yn haws gweld beth sydd ar gael.

Pan gaiff ei ddefnyddio’n gyson, gall helpu pobl i:

  • weld beth sydd ar gael yn lleol
  • deall ble y gallant ddechrau
  • cael darlun cliriach o sut mae llwybrau’n cysylltu dros amser

Mae hefyd yn rhoi man cyffredin i ddarparwyr a chyflogwyr hyrwyddo cyfleoedd, gan helpu i greu darlun cliriach a mwy cyson o’r hyn sydd ar gael yn y rhanbarth.

Mae pobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn agored i adeiladu eu dyfodol yma. Yr her yw gwneud y dyfodol hwnnw’n haws i’w weld ac i’w ddeall.

I gael mynediad at yr adroddiad llawn, neu i drafod sut y gall y canfyddiadau hyn gefnogi eich gwaith, cysylltwch â info@rspnorth.wales

Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —