
Ymrwymiad i brentisiaethau’n “gadarn”, meddai’r Gweinidog Sgiliau

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, yn sgwrsio â’r prentisiaid Elinor Jones, Luke Jones, Sara Williams a Rhiannon Young yn y gynhadledd.
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, wedi pwysleisio ymrwymiad “cadarn” Llywodraeth Cymru i brentisiaethau er mwyn diwallu anghenion economi sy’n esblygu’n barhaus.
Wrth annerch cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dywedodd: “Rydyn ni’n llywio chwyldro gwyrdd Cymru trwy ein rhaglen brentisiaethau, gyda hyfforddiant mewn technoleg werdd flaengar, arloesi digidol a deallusrwydd artiffisial.
“Trwy’r rhaglenni hyn rydyn ni’n buddsoddi yn nyfodol Cymru ac mae ein hymrwymiad i brentisiaethau’n dal yn gadarn.”
Daeth nifer dda o bobl i’r gynhadledd ar y thema ‘Prentisiaethau: Hybu Twf Economaidd a Chynlluniau i Arloesi yn y Dyfodol’ a Mr Sargeant AS roddodd yr araith i gloi. Diolchodd i’r cynadleddwyr am eu hymroddiad a’u hangerdd dros ddarparu prentisiaethau ledled Cymru.
“Gyda’n gilydd, rydyn ni’n adeiladu Cymru lle mae pawb yn cael cyfle i lwyddo,” meddai. “Gadewch inni ddal ati i gydweithio, law yn llaw, i sicrhau bod prentisiaethau’n cael yr effaith fwyaf ar ein heconomi a’n cymdeithas.”
Gwrandawodd yn astud ar sesiwn holi ac ateb gyda phedwar prentis presennol o wahanol rannau o Gymru a dywedodd ei bod yn “wirioneddol wych”.
Mr Sargeant yw’r cyn-brentis cyntaf i ddod yn weinidog yn Llywodraeth Cymru a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai rhagor yn dilyn yn y dyfodol.
“Rwy’n llawn balchder ac optimistiaeth wrth weld eich bod wedi gallu canfod grym trawsnewidiol prentisiaethau a’u rôl allweddol wrth lunio gweithlu medrus a hyblyg yn ein heconomi fyd-eang sy’n esblygu’n barhaus,” meddai wrth y cynadleddwyr.
“Mae prentisiaethau’n pontio’r bwlch sgiliau, yn cynnig profiad ymarferol, ac yn meithrin y gallu i arloesi. Maen nhw’n ein helpu i gyraedd ein nodau economaidd ac yn cyfrannu at symudedd cymdeithasol. Mae mwy i’r rhaglenni hyn na dysgu crefft; maen nhw’n helpu i adeiladu dyfodol lle gall pob unigolyn ffynnu a chyfrannu at y gymdeithas.
“Rydyn ni’n creu cyfleoedd i bobl o bob oed, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn breuddwydion newydd. Gyda dros hanner ein prentisiaid dros 25 oed, rydyn ni’n helpu pobl i ailddyfeisio eu gyrfaoedd beth bynnag yw eu hoedran.”
Pwysleisiodd y byddai cyllideb prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn dal yn £144 miliwn ar gyfer 2025-26. Yn ogystal, meddai, roedd y Llywodraeth yn cydweithio’n agos â Medr, y corff newydd sy’n cyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod llwybrau prentisiaeth yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru.
Agored Cymru oedd noddwr pennaf y gynhadledd a City & Guilds oedd y noddwr cyswllt. Roedd yn canolbwyntio ar y rhan hanfodol y mae prentisiaethau’n ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu o’r radd flaenaf i sicrhau twf economaidd i Gymru yn y dyfodol.
Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Darren Howells, prif weithredwr Agored Cymru; Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol Polisi, Medr; Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru; Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, ac Angharad Lloyd Beynon, uwch-reolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau gyda City & Guilds yn y cenhedloedd ac Iwerddon.
Pwysleisiodd pawb ohonynt yr angen i gydweithio yn wyneb heriau’r presennol a’r dyfodol, yn cynnwys cofleidio technolegau AI er mwyn diwallu anghenion cyflogwyr a’r economi, sy’n newid yn barhaus.
Roeddent hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd paru prentisiaethau ag anghenion cyflogwyr, yr economi a chymdeithas gan gynnig sgiliau trosglwyddadwy.
Dywedodd Mr Howells fod Agored Cymru yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, Medr a Cymwysterau Cymru i wella prentisiaethau er mwyn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi, ond pwysleisiodd fod cydlyniant yn hollbwysig.
Mynnai na ddylai Cymru ddilyn Lloegr a chael gwared ar sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer prentisiaid sy’n oedolion, gan rybuddio: “Mae hyn yn beryglus os ydyn ni am lenwi’r bylchau sgiliau yn y Deyrnas Unedig.
“Ddylen ni ddim anghofio fod yr hyn a wnawn ni yng Nghymru yn fodel llwyddiannus a bod darparwyr o Loegr yn aml yn eithaf cenfigennus ohono. Rhaid inni fod yn ddewr ac yn arloesol a gwthio’r ffiniau i wneud gwahaniaeth heb amharu ar ansawdd.”

Siaradwyr yng Nghynhadledd Flynyddol NTFW (o’r chwith) Angharad Beynon, City & Guilds, Lisa Mytton, NTFW, Rhian Edwards, Medr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru a Darren Howells, Agored Cymru.
Cyhoeddodd Rhian Edwards y byddai cynllun strategol sy’n cyflwyno uchelgeisiau Medr yn cael ei gyhoeddi ar 12 Mawrth, wedi’i ddilyn gan gynllun gweithredol ym mis Mai a gweledigaethau, nodau ac amcanion strategol Rhaglen Brentisiaethau newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl 2027 erbyn diwedd eleni.
Ymhlith heriau Medr mae taclo cyfradd uchel anweithgarwch economaidd yng Nghymru a mynd i’r afael â bylchau sgiliau yn y gweithlu. “Mae gennym ni faterion cymhleth i’w hwynebu a fydd Medr ddim yn gallu cyflawni’r uchelgeisiau sydd gennym ar y cyd ar gyfer Cymru a’i dysgwyr heb gydweithio â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid ar draws y sector.
“Trwy gydweithio â chi, rydyn ni’n hyderus y gallwn ni sicrhau system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, y gymdeithas a’r economi gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltiad yn ganolog iddi,” meddai.
Tynnodd Lisa Mytton sylw at y ffaith fod cydweithio’n thema gref yn y gynhadledd. “Mae yna lawer o newidiadau ar y gweill yn ystod y misoedd nesaf,” meddai.
“Rhaid i ni adnewyddu ein hymrwymiad i ddatblygu prentisiaethau wrth i ni barhau â’n perthynas o gydweithio â Medr a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Cymru’n dal i gynnig cyfleoedd i bawb i gefnogi twf economaidd.”
Cyflwynwyd gweithdai gan Estyn, Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu, Cymwysterau Cymru, Panda Education and Training, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyngor y Gweithlu Addysg a Future Digital Education.
More News Articles
« Dylai cyflogwyr ddim anwybyddu bwlch rhywedd Cymru — Elinor yn mwynhau amrywiaeth ei phrentisiaeth ym myd marchnata »