
Elinor yn mwynhau amrywiaeth ei phrentisiaeth ym myd marchnata
Mae Elinor Jones yn cyfuno’i sgiliau creadigol â’i chariad at deithio a thwristiaeth yn ei phrentisiaeth amrywiol fel cynorthwyydd marchnata gyda Chyngor Caerdydd.
Mae Elinor, 31, yn rhannu ei hamser rhwng Awdurdod Harbwr Caerdydd, Croeso Caerdydd a Pharc Bute wrth iddi weithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3, a drefnir gan y darparwr dysgu seiliedig ar waith ACT.
Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn Stadiwm Dinas Caerdydd a bu’n helpu i’w hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd Elinor yn un o bedwar prentis ar banel sesiwn holi ac ateb yn y gynhadledd. Disgrifiwyd y sesiwn gan Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, fel un “wirioneddol wych” a rhagwelai y byddai’r pedwar prentis ymhlith arweinyddion y dyfodol.
Yn Rhaeadr y magwyd Elinor, bu’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, a gwnaeth radd mewn actio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin cyn treulio amser yn teithio.
Rhoddodd gynnig ar nifer o wahanol swyddi cyn chwilio am waith ym maes marchnata digidol, ond roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am brofiad yn y maes.
Yn ffodus, sicrhaodd Elinor brentisiaeth gyda Chyngor Caerdydd y llynedd ac mae hynny’n cynnwys hyrwyddo digwyddiadau ac atyniadau yn y ddinas, Bae Caerdydd ac Ynys Echni a Pharc Bute. Ar hyn o bryd mae’n helpu â chynlluniau i ddathlu pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd yn 25 ar Ebrill 1.
“Ro’n i’n awyddus i ailhyfforddi ond ro’n i’n ei chael hi’n anodd cael swydd farchnata gan fod cyflogwyr yn gofyn am ddwy flynedd o brofiad. Roedd hynny’n rhwystredig,” meddai. “Sut allwn i gael profiad heb iddyn nhw roi swydd i mi?
“Mae’r brentisiaeth gyda Chyngor Caerdydd yn berffaith achos rwy’n gallu dysgu, ennill cymhwyster, a gweithio ac ennill cyflog ar yr un pryd. Mae llawer o’r pethau rwy’n eu dysgu trwy’r brentisiaeth yn gallu cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn fy ngwaith.
“Mae’n ffordd wych o ddod i ddeall marchnata. Rwy’n berson eitha creadigol gyda sgiliau pobl – dyna pam wnes i radd mewn actio – felly mae’n hwyl creu cynnwys yn fy swydd.
“Hoffwn i aros yn y sector teithio a thwristiaeth gan fy mod wrth fy modd yn y maes, a gweithio fy ffordd i fyny. ”
Wrth edrych i’r dyfodol, dywed Elinor y byddai’n ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch. “Mae bob amser yn dda dal ati i ddysgu gan fod hynny’n eich helpu i wneud eich gwaith yn well,” meddai.
Cafodd Elinor gyfle i ysgrifennu blog am gynhadledd NTFW ac meddai am ei rôl ar y diwrnod: “Roedd yn ddiwrnod cyffrous ac yn gyfle gwych i rwydweithio â phobl eraill a gweld beth oedd yn digwydd ym myd prentisiaethau yng Nghymru.”
Canmolwyd ei chyfraniad i’r gynhadledd gan Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTFW. “Gofynnwyd i Elinor a hoffai ysgrifennu blog a helpu â chwpl o bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn y gynhadledd cyn cymryd rhan yn y Sbotolau ar Brentisiaid.
“Llwyddodd i ragori ar ein disgwyliadau a, gyda phrentisiaid eraill, gwnaeth gyfraniad ardderchog i’r gynhadledd gan haeddu canmoliaeth y Gweinidog Sgiliau.”
More News Articles
« Ymrwymiad i brentisiaethau’n “gadarn”, meddai’r Gweinidog Sgiliau — Partneriaid yn cyfarfod er mwyn cydweithio i daclo prinder sgiliau yng Nghymru »