Gŵyl Sgiliau Digidol Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSR) Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i ddod â mewnwelediadau sgiliau rhanbarthol at ei gilydd yn barod i lywio’r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol nesaf (2022 – 2025). Mae’r ‘Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth’ tair blynedd yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â busnesau ar draws y rhanbarth, a bydd yn rhoi cipolwg ar gyflenwad a’r galw o’r system sgiliau yn y rhanbarth, ac yn hollbwysig, yr hyn y mae cyflogwyr yn ei ddweud yw eu hanghenion presennol a’u blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn hanfodol ar gyfer datblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth trylwyr, fel y pwysleisiwyd gan ymchwil barhaus y PSR drwy arolwg cyflogwyr ar-lein, gweithdai cyflogwyr a chyfarfodydd un i un gyda chyflogwyr. Bydd y wybodaeth a gesglir o’r ffynonellau hyn yn darparu llinell sylfaen o’r heriau presennol a’r bylchau sgiliau y mae busnesau’n eu hwynebu.

Cyflogwyr a myfyrwyr yn yr achlysur

Er mwyn cynhyrchu trosolwg cynhwysfawr o’r rhanbarth, mae’r PSR wedi bod yn defnyddio eu rhwydweithiau grŵp clwstwr cyflogwyr presennol. Yn ddiweddar, cynhaliodd yr PSR weithdy Sgiliau Digidol yn M-SParc, yn gwahodd cyflogwyr o bob maint a sector gydag unrhyw lefel o’r angen am sgiliau digidol, i rannu eu heriau a’u gofynion sgiliau. Mae gweithdai wedi bod yn ffordd wych o ymgysylltu â chyflogwyr a chaniatáu i gyflogwyr lleol leisio’u barn gan helpu ar yr un pryd i lywio a chyd-ddatblygu’r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth rhanbarthol nesaf.

Gan fod cael cymaint o gyflogwyr gyda’i gilydd mewn un ystafell mor brin y dyddiau hyn, gwnaeth y PSR Gogledd Cymru y mwyaf o hyn drwy ehangu eu gweithdy cyflogwyr i gynnwys prynhawn o rwydweithio rhwng cyflogwyr a graddedigion! Gyda recriwtio yn peri nifer o heriau i gyflogwyr, roedd yr PSR wrth eu bodd yn gallu hwyluso digwyddiad o’r fath mewn cydweithrediad ag M-SParc.

Cafodd y digwyddiad ganlyniadau anhygoel gyda graddedigion a phobl ifanc yn cael cynnig cyfweliadau gyda chyflogwyr lleol! Yn dilyn diwrnod llwyddiannus iawn, mae’r PSR yn gobeithio gallu hwyluso digwyddiadau tebyg yn y dyfodol ar draws prif sectorau ranbarthol eraill!

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

More News Articles

  —