Cymru yw’r rhanbarth gorau eto, wrth i dros 130 o gystadleuwyr cael i gyhoeddi ar gyfer rowndiau terfynol Cenedlaethol y DU!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

WorldSkillsUK logo Cymru Wales















Gyda Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2021 rownd y gornel, bydd myfyrwyr o Dîm Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn brwydro i ennill teitl Pencampwyr Sgiliau ar draws 63 disgyblaeth. Ar ol i World Skills UK rhannu list derfynol or cystadleuwyr, rydym yn falch i ddweud bod ni yng Ngymru wedi gael flwyddyn lwyddiannus iawn, efo’r nifer fwyaf o gynrychiolwyr o’r gwledydd datganoledig yn rowndiau terfynol.

Mae dros 130 o gystadleuwyr o Gymru wedi cyrraedd y rownd derfynol a fydd pob un o’r myfyrwyr yn mynd yn erbyn myfyrwyr eraill o bob rhan o’r DU. Bydd y cystadlaethau’n cynnwys pynciau fel Gwyddoniaeth Fforensig, Seiberddiogelwch a Gwasanaethau Bwyty Sylfaenol. Mae nifer y cystadleuwyr ar y rhestr eleni yn cyfrif am dros 25% o’r presenoldeb cyffredinol ac yn gosod Cymru ar frig y tabl, gan arwain y ffordd yn llwyr yn erbyn rhanbarthau eraill sy’n cystadlu.

Bydd y cystadlaethau eleni yn ychydig gwahanol, gyda chystadlaethau ledled y DU am y tro cyntaf. Bydd tair o’r cystadlaethau yn cael eu cynnal yng Nghymru, gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn croesawu detholiad o gystadlaethau Modurol, Coleg Gŵyr Abertawe yn cael ei ddewis i gynnal Electroneg Ddiwydiannol, a Choleg Cambria yn cael ei ddewis i gynnal detholiad o Gystadlaethau Peirianneg a Harddwch. I ddarparu ar gyfer rhai cystadleuwyr, cynhelir cystadlaethau Sgiliau Sylfaen o bell ar draws nifer o ddisgyblaethau.

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru,

“Mae’n gyflawniad gwych i Gymru fod yn arwain y ffordd unwaith eto yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU ac i ni fel cenedl leoli ein hunain mor gryf ymhlith rhanbarthau eraill.

“Bydd y gystadleuaeth eleni yn benodol, yn gyfle newydd sbon, ond yn gyfle cyffrous i bawb sy’n cymryd rhan ac mae’n wych bod dull gweithredu ledled y DU bellach wedi’i fabwysiadu. Mae hyn nid yn unig yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar gyfleusterau eraill ledled y DU, ond yn gyfle i ni yma yng Nghymru arddangos tri lleoliad gwych.

“Ni allaf aros i weld sut mae ein cystadleuwyr yn gwneud – llongyfarchiadau enfawr i’r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol a‘ phob lwc’ hyd yn oed yn fwy!”

Bydd cystadlaethau rhedeg 14-19 Tachwedd 2021, bydd mwy o fanylion am hyn yn dilyn dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r cystadlu’n dechrau ar lefel ranbarthol gyda Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, o dan arweiniad prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ac maen nhw’n symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Hoffai tîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ddymuno’n dda i’r holl gystadleuwyr, gan edrych ymlaen at ddathlu’r llwyddiannau ar 25 Tachwedd.

Ar noson y gwobrau, gallwch ddilyn yr holl gyffro ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Ar noson y gwobrau, gallwch ddilyn yr holl gyffro ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
Instagram: @ISEinWales
Twitter: @ISEinWales

Cystadleuwyr o Gymru sydd ar y rhestr fer.

More News Articles

  —