
Lansio Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR) wedi lansio ei Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth am y tair blynedd nesaf.
Mae’r cynllun yn ceisio amlygu’r cyfeiriad ar gyfer anghenion sgiliau cyflogwyr ar draws prif sectorau. Mae’n nodi rhai o’r heriau a wynebir gan gyflogwyr, trigolion, sectorau a darparwyr hyfforddiant. Mae’n tynnu sylw at gyfleoedd i adeiladu ar y cydlyniad presennol o waith cyflogaeth a sgiliau yn y rhanbarth. Bydd adeiladu ar y cyfleoedd hyn a goresgyn yr heriau a wynebir yn gofyn am gydweithio.
Daeth dros 160 o rhanddeiliaid a chyflogwyr i’w lansiad yn Venue Cymru i glywed sgyrsiau ysbrydoledig, trafodaethau paneli arbenigol ac i ymweld â’r arddangosfa ‘cwrdd â’r arbenigwr’. Roedd y digwyddiad yn arddangos y cyfleoedd yn y rhanbarth ac yn amlygu’r llwyddiant posibl pan fydd cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn cydweithio i gyflawni ar gyfer y rhanbarth.
Cynhaliwyd tair sesiwn banel yn ystod y bore i ddangos tair blaenoriaeth y cynllun; Galluogi a grymuso cyflogwyr; Galluogi a grymuso unigolion a’r drydedd flaenoriaeth, Sut y darperir cymorth a chreu’r cysylltiadau.
Daeth y sesiwn banel cyntaf â chynrychiolwyr ynghyd o sefydliadau addysg, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai a Gyrfa Cymru a cynrychiolaeth cyflogadwyedd. Roedd yn gyfle i ddarparwyr arddangos eu cynnig o raglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd i gefnogi cyflogwyr a’u gweithlu gyda recriwtio, cadw, uwchsgilio ac ailsgilio eu staff.
Yn ogystal, roedd panel yn canolbwyntio ar gyflogwyr â daeth cyflogwyr allweddol ar draws sectorau blaenoriaeth at ei gilydd, Moneypenny, The VAE, M-SParc, a Wynne Construction ynghyd, i rannu eu profiad a’u harferion gorau ar recriwtio, cadw staff yn ogystal â chynllunio’r gweithlu.
Ar y panel cloi, rhannodd prentisiaid presennol a’r rhai sydd wedi newid gyrfa syniadau ac ateb cwestiynau am eu profiad o ddysgu seiliedig ar waith, gan gynnwys Rosie Boddy, enillydd Medal Aur mewn Cynnal a Chadw Awyrennau yn rownd derfynol cenedlaethol WorldSkills UK 2022. Mae Rosie ar hyn o bryd yn dilyn prentisiaeth gydag Airbus a bellach yn ei blwyddyn olaf lle bydd yn cymhwyso fel gosodwr systemau medrus.
Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2023-2025
https://www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru/