Lansiad y Portal Sgiliau Gogledd Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ar ddiwedd mis Ionawr, lansiodd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR) y Portal Sgiliau Gogledd Cymru, sef platfform ar-lein newydd wedi’i gynllunio i fod yn borth i gyfleoedd yng Ngogledd Cymru. Ei nod yw cysylltu pobl a chyflogwyr gyda datblygiadau sgiliau lleol a chyfleoedd cyflogaeth, ynghyd â darparwyr hyfforddiant a chymorth cyflogadwyedd.

screen shot of website

Beth sydd yn y Portal Sgiliau Gogledd Cymru?

  • Swyddi Gwag: Dewch o hyd i’r swyddi a’r prentisiaethau yn y rhanbarth a gwneud cais heddiw!
  • Cyfleoedd Hyfforddi: Gwella eich sgiliau a darganfod amrywiaeth o raglenni hyfforddi a chysylltu â darparwyr.
  • Llwybrau Gyrfa: Darganfyddwch wahanol opsiynau gyrfa a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer sectorau twf Gogledd Cymru.
  • Cefnogaeth Busnes: Gall cyflogwyr gael mynediad at adnoddau i ddatblygu eu gweithlu ac ehangu eu rhwydweithiau.
  • Digwyddiadau ac Adnoddau Lleol: Edrychwch ar ddigwyddiadau lleol, adnoddau cyflogadwyedd, a chanllawiau i wneud y mwyaf o gyfleoedd.

Ers ei lansio, mae dros 2,000 o ymwelwyr eisoes wedi archwilio’r portal, gan ddod o hyd i wybodaeth a chyfleoedd gwerthfawr. Rydym yn annog darparwyr hyfforddiant i rannu eu digwyddiadau a’u straeon llwyddiant gyda ni i helpu i’w hyrwyddo trwy’r portal.

Crëwyd y portal gyda mewnbwn gan gyflogwyr lleol ac arbenigwyr diwydiant, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion penodol Gogledd Cymru. Chwaraeodd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys colegau rhanbarthol, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant annibynnol, Gyrfa Cymru, a darparwyr cyflogadwyedd eraill, rôl hanfodol yn ei ddatblygiad.

Fel un o bedair partneriaeth ar draws Cymru, mae’r RSP Gogledd Cymru yn dod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau, a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i ddeall ac ateb anghenion cyflogwyr lleol a rhanbarthol yn well. Rydym yn gwahodd pobl sydd yn chwilio am waith, unigolion a chyflogwyr yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio’r portal a dod o hyd i’w cyfle nesaf.

Rydym yn casglu adborth yn barhaus o’r sesiynau hyn i fireinio a gwella’r portal, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion chwilwyr swyddi a chyflogwyr yng Ngogledd Cymru.

Fe wnaeth £75,000 o ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Y Gronfa Ffyniant Gyffredin wneud y Portal Sgiliau Gogledd Cymru yn bosibl.

Dathlu Wythnos Prentisiaethau
Cefnogodd y PSR ymgyrch Wythnos Prentisiaethau Cymru ar draws ein cyfryngau cymdeithasol, gan arddangos y buddion a’r cyfleoedd gyda phrentisiaethau. Rhannom gynnwys allweddol, gan gynnwys trosolwg o beth yw prentisiaeth, chwalu mythau, a rhannu storïau llwyddiant prentisiaid. Cyrhaeddodd yr ymgyrch dros 1,800 o unigolion unigryw ar draws LinkedIn, Facebook, ac Instagram.

Rydym hefyd wedi ymgysylltu â phobl ifanc ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, a Sir Ddinbych drwy ganolbwyntio sesiynau ar ein naw sector blaenoriaeth ac ar sgiliau trosglwyddadwy. Fe wnaeth y gweithgareddau yma helpu unigolion i nodi eu sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr. Cafodd hefyd gyflwyniad ymarferol o’r portal i ddarganfod mwy am lwybrau prentisiaeth a swyddi gwag yn y rhanbarth.

Nodwedd sydd ar y ffordd: Arddangosfa Cyflogwyr
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi datblygiad ein nodwedd nesaf, yr Arddangosfa Cyflogwyr. Mae hwn yn gyfle gwych i gyflogwyr ddenu gweithwyr newydd, hyrwyddo eu sefydliadau, a helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau gyrfa nesaf. Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau!

Ewch i’r Portal Sgiliau Gogledd Cymru i ddarganfod mwy.

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —