Penderfyniad i ddilyn prentisiaeth yn dwyn ffrwyth i Peter, cigydd o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

Peter Rushforth using his skills in a butchery competition.

Peter Rushforth yn defnyddio’i sgiliau mewn cystadleuaeth gigyddiaeth.

English | Cymraeg

Mae penderfyniad Peter Rushforth i ddilyn prentisiaeth yn hytrach na mynd i astudio mewn prifysgol yn talu ar ei ganfed i’r cigydd disglair 21 oed.

Mae’r cigydd ifanc o Goed-llai ger yr Wyddgrug eisoes wedi ennill nifer o wobrau ac, yn ddiweddar, bu yn yr Unol Daleithiau ar ôl ennill ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i astudio datblygiad chwarthor blaen eidion a chynhyrchion cysylltiedig a’r defnydd a wneir ohonynt.

Ddim ond diwrnod ar ôl dod adref, enillodd wobr arall at y casgliad oedd ganddo eisoes, pan enwyd ef yn Brentis Uwch y Flwyddyn gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Roedd y wobr yn goron ar flwyddyn gofiadwy i Peter a enillodd fedal aur WorldSkills a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal. Bu hefyd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i Gigyddion Ifanc a daeth yn agos at y brig yng ngornest Premier Young Butchers yn 2016.

Daw ei lwyddiant yn dilyn gwaith caled ac ymroddiad ac mae’n ddyledus i’w gyflogwyr, Clive a Gail Swan o Swans Farm Shop, Treuddyn, yr Wyddgrug a’i ddarparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian am eu cefnogaeth.

Dechreuodd ar ei daith pan oedd yn 15 ac y dechreuodd weithio yn y siop fferm ar Sadyrnau i ennill arian poced. Pan adawodd yr ysgol yn 18 oed â thair lefel ‘A’, cafodd y cyfle i fynd i brifysgol i astudio seicoleg ond dewisodd ennill cyflog wrth ddysgu fel prentis cigydd.

Roedd yn brofiad newydd i Clive a Gail Swan hefyd oherwydd Peter oedd eu prentis cyntaf. Symudodd ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd, gan ennill cystadlaethau wrth fynd, yn cynnwys Cigydd Ifanc Cymru.

Erbyn hyn, mae’n agos at gwblhau’r Brentisiaeth Uwch, sy’n cyfateb i radd a’i fwriad yn awr yw rhoi’r hyn a ddysgodd ar ei daith ar ysgoloriaeth i’r Unol Daleithiau ar waith.

Mae’n arbennig o awyddus i ddatblygu darnau newydd o chwarthor blaen eidion, sy’n arfer cael ei ddefnyddio ym Mhrydain i wneud pasteiod. Yn yr Unold Daleithiau, daw pum darn tyner o gig o’r chwarthor blaen, yn cynnwys stecen bwtler.

“Mae’r darnau hyn o gig mor dyner a stêcs syrlwyn a ffolen oherwydd y ffordd y caiff y cig ei dorri,” esboniodd Peter. ‘Gan fod y chwarthor blaen yn rhatach, mae hyn yn dod â stêcs o fewn cyrraedd grŵp o gwsmeriaid sy’n methu fforddio’r stêcs gorau gan amlaf ac mae’n defnyddio mwy o’r carcas.

“Roedd gen i ddiddordeb mewn beef jerky a charcuterie hefyd – sy’n boblogaidd iawn yn America. Y cwestiwn roeddwn i’n awyddus i’w ateb oedd: os ydyn nhw mor hoff ohono, pam na allwn ni ei wneud yma? Rwy’n credu bod marchnad ar gyfer jerky ffres o’r fferm a byddwn yn datblygu cynhyrchion newydd yn y siop dros y misoedd nesaf.”

O feddwl am lwybr dysgu’r brentisiaeth, dywedodd: “Doedd gen i na fy nghyflogwr ddim syniad pa mor bell y byddai’r brentisiaeth yn mynd. Roedd yn rhaid cymryd pethau fel roedden nhw’n dod a manteisio ar bob cyfle ar hyd y ffordd.

“Roeddwn i’n hoff iawn o’r diwydiant cig ac yn teimlo mod i’n perthyn ynddo. Roeddwn i’n hoffi’r syniad o gymryd cig o’r anifail a gweld beth oedd gennym rai oriau’n ddiweddarach ar ôl defnyddio fy sgiliau cigydda.

“Mae’r prentisiaethau wedi rhoi sylfaen i mi adeiladu fy ngyrfa arni. Maent wedi rhoi dealltwriaeth o’r busnes i mi, a’r sgiliau a’r wybodaeth y mae arnaf eu hangen i ddatblygu cynhyrchion newydd, maent wedi fy ngwthio i wella fy hunan ac maent wedi rhoi cymwysterau cydnabyddedig i mi, sy’n bwysig.

“Mae Clive a Gail wedi chwarae rhan fawr yn fy llwyddiant. Maen nhw wedi fy annog i ac wedi rhoi’r cyfleoedd a’r adnoddau i mi roi fy syniadau ar waith.

“Mae’n ddiddorol nodi bod fy ffrindiau o’r ysgol i gyd wedi gorffen yn y brifysgol erbyn hyn ac nad oes gan yr un ohonyn nhw swydd y buon nhw’n astudio ar ei chyfer. Erbyn hyn, mae llawer ohonyn nhw’n cytuno fy mod wedi gwneud y penderfyniad iawn i ddewis prentisiaeth.

“Ar hyn o bryd, mae llawer o swyddi’n gofyn am brofiad gwaith, a dydi hwnnw ddim gan lawer o bobl sy’n gadael y brifysgol. Erbyn i chi orffen eich prentisiaeth, mae gennych dair neu bedair blynedd o brofiad.”

Mae Gail Swan wrth ei bodd â llwyddiant Peter. “Fedren ni ddim cael gwell gweithiwr,” meddai. “Peter oedd ein prentis cyntaf ac rydyn ni wedi dysgu llawer iawn wrth fynd ymlaen. Mae popeth am y brentisiaeth wedi bod yn dda ac mae pawb ohonon ni wedi elwa ar yr hyfforddiant a gafwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod ei thymor presennol. Mae’r prentisiaethau’n canolbwyntio’n arbennig ar anghenion diwydiant, yn enwedig wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, sef sectorau lle mae prinder sgiliau.

Bwriedir buddsoddi mwy hefyd i hybu twf mewn sectorau allweddol yn cynnwys y diwydiannau creadigol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, adeiladu, logisteg a gwasanaethau ariannol ac amgylcheddol. Caiff prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai dwyieithog eu cefnogi hefyd.

  • Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan sicrhau profiad ymarferol, gwerthfawr, yn y gweithle
  • Mae prentisiaethau’n cyfrannu tuag £1.1 biliwn at economi Cymru
  • Mae pob £1 o arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn prentisiaethau’n esgpr ar £74 o’i gymharu â £57 yn achos gradd arferol.
  • Mae cyfraddau llwyddiant mewn prentisiaethau yng Nghymru dros 80 y cant yn gyson o’i gymharu â 67 y cant yn Lloegr
  • Ar gyfartaledd, mae fframwaith prentisiaeth yn costio rhwng £4,000 ac £16,000 o’i gymharu ag o leiaf £27,000 ar gyfer gradd arferol

O 8 Ebrill eleni ymlaen, mae cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n talu dros £3 miliwn mewn cyflogau yn talu Ardoll Brentisiaethau sy’n mynd at hyfforddi prentisiaid.

I gael gwybod sut y gallai eich busnes elwa, cofrestrwch eich diddordeb yma

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —