Penodiadau newydd yn hybu gwaith Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (y Bartneriaeth) wrth eu bodd o gyhoeddi bod dau Reolwr Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol newydd wedi’u penodi a fydd yn gweithio trwy’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau i ysgogi gwahanol fathau o weithgareddau. Mae gan Richard Tobutt a Huw Wilkinson gyfoeth o brofiad yn gweithio ym maes sgiliau yng Nghymru ac maent yn rhagweld y byddant yn adeiladu ar y berthynas gadarnhaol sydd eisoes gan y Bartneriaeth gyda chyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid allweddol ledled y rhanbarth.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymroi i sicrhau bod gwaith cyflenwi sgiliau’n cael ei wneud yn rhanbarthol. Mae tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol ar waith yng Nghymru (yn y Gogledd, yn y De-orllewin a’r Canolbarth, ac yn y De-ddwyrain). Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl iddynt baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer sgiliau yn y dyfodol, a chynrychioli buddiannau eu rhanbarth wrth baratoi system sgiliau a seilir ar y galw. Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd yw’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae’n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol.

Sefydlwyd y Bartneriaeth i ddwyn pobl ynghyd fel y gellir cydweithredu mewn ffordd strategol i wneud penderfyniadau am sgiliau. Caiff gwaith y Bartneriaeth ei lywio gan y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau o dan gadeiryddiaeth Leigh Hughes, un o gyfarwyddwyr Bouygues Construction UK. Trwy’r Bwrdd, daw cynrychiolwyr byd busnes a darparwyr addysg a hyfforddiant ynghyd i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r sectorau a gynrychiolir ganddynt er mwyn sicrhau bod y rhanbarth mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau ym maes sgiliau.

Tua diwedd 2019, lansiodd y Bartneriaeth ei Chynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2019-22 i fod yn weledigaeth dair blynedd ar gyfer y rhanbarth. Datblygwyd y Cynllun mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol ac fe’i defnyddir i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddylanwadu ar eu gwaith yn cynllunio ac yn ariannu addysg ôl-16. Bydd hyn yn helpu i sicrhau system sgiliau sy’n seiliedig ar y galw ac i gynyddu cynhyrchiant a ffyniant ledled y rhanbarth. Dywed Leigh Hughes, cadeirydd y Bartneriaeth, “Credwn fod ein cynllun yn cyflwyno’r camau y mae angen i lawer o wahanol bartneriaid eu cymryd i fynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau a’r prinder sgiliau sy’n llesteirio twf ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd”. Mae copi dwyieithog llawn o’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau i’w weld yma: www.ccrdata.wales.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Bartneriaeth yn lansio’i harolwg blynyddol i gyflogwyr. Bydd yn gyfle i rannu sylwadau am yr heriau a’r anawsterau yr ydych wedi’u hwynebu o ran sgiliau, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu yn y 12 mis diwethaf. Bydd eich cyfraniad yn amhrisiadwy a bydd eich ymateb yn helpu’r Bartneriaeth i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa yn y rhanbarth ac i sicrhau bod y blaenoriaethau’n cyfateb i anghenion y diwydiant. Cofiwch ddweud eich dweud!

Y Newyddion Diweddaraf Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd

More News Articles

  —