Pennaeth Cymwysterau Cymru’n galw am fwy o gydweithio er budd dysgwyr

Postiwyd ar gan Events Team

English | Cymraeg

Picture of Philip Blaker

Philip Blaker

Bydd prif weithredwr Cymwysterau Cymru yn nodi bod angen i bartneriaid ledled Cymru gydweithio i gryfhau’r system gymwysterau a diogelu gwerth cymwysterau i ddysgwyr. Bydd Philip Blaker yn gwneud yr alwad yn un o brif areithiau cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd ddydd Gwener.

Bydd cyflwyniad Mr Blaker yn canolbwyntio ar dri mater allweddol: sut mae’r system gymwysterau’n ymateb i anghenion newydd sy’n datblygu, gan barhau’n berthnasol i’r sefyllfa heddiw; gwaith a wneir gan Cymwysterau Cymru yn awr i ddatblygu ac adolygu cymwysterau a gweledigaeth ar gyfer system gymwysterau’r dyfodol.

Bydd yn pwysleisio grym cydweithio a phwysigrwydd cydymdrech gan bartneriaid allweddol er budd dysgwyr heddiw ac yfory.

Er y bydd yn cydnabod heriau’r presennol, fel cyfyngiadau ariannol a gwahaniaethau ym mholisïau gwledydd datganoledig y DU, bydd yn pwysleisio’r cyfleoedd a gaiff eu creu wrth sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Bydd yn amlygu’r cyfle a gaiff CADY a Cymwysterau Cymru i gydweithio er mwyn integreiddio adolygiadau o fframweithiau prentisiaethau a chreu system gymwysterau effeithiol ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16.

‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’ yw thema’r gynhadledd a City & Guilds yw ei noddwr pennaf.

Y prif siaradwyr eraill fydd Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol addysg bellach a phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru; cyfarwyddwr strategol NTFW, Lisa Mytton; rheolwr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaethau (y Cenhedloedd ac Iwerddon)

City & Guilds, Angharad Lloyd Beynon a phrif weithredwr Agored Cymru, Darren Howells.

Bydd panel yn trafod prentisiaethau hefyd yn y gynhadledd a fydd yn canolbwyntio ar “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory”. Bydd y cynadleddwyr yn trafod sut i gyflawni potensial trwy brentisiaethau, grymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.

Bydd pynciau’r gweithdai’n amrywio o ‘Tyfu BBaChau trwy ddatblygu sgiliau’ a ‘Stigma Iechyd Meddwl mewn Gweithleoedd’ i ‘Archwilio sut y gall technolegau digidol wella profiad prentisiaid o ran dysgu ac asesu’ a ‘Ffeindio’ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI’.

Meddai Angharad Lloyd Beynon:  “Mae City & Guilds yn falch o fod yn noddwr pennaf cynhadledd sy’n rhoi pwyslais ar rôl prentisiaethau a sgiliau er mwyn sbarduno twf economaidd.  Rydym yn credu mewn grymuso unigolion â’r wybodaeth a’r arbenigedd i hybu ffyniant, gan feithrin dyfodol lle mae sgiliau’n llunio economi lewyrchus.”

Back to top>>

More News Articles

  —