Goroeswr ffrwydrad ac entrepreneur yn ennill gwobrau prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Goroeswr ffrwydrad nwy sydd wedi dod yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig ac entrepreneur sydd wedi troi hobi yn fusnes clustogwaith llwyddiannus oedd dau o’r enillwyr yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 neithiwr (nos Wener).

Cafodd naw enillydd rhagorol o bob cwr o Gymru, mewn categorïau ar gyfer prentisiaid, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, y gwobrau nodedig wrth i sêr rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru ddisgleirio yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Caiff y gwobrau eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a’r prif noddwr EAL, y corff dyfarnu.

Un o’r rhai a gymeradwywyd yn ystod y noson oedd Jessica Williams, sy’n 34 oed ac yn arweinydd meithrinfa ysbrydoledig yn Sêr Bach y Cwm, Ystradgynlais, a gafodd ei henwi yn Brentis Uwch y Flwyddyn.

Mae Jessica wedi brwydro yn erbyn anafiadau a newidiodd ei bywyd i greu gyrfa lwyddiannus, a hynny wedi i ffrwydrad nwy annisgwyl ddymchwel ei chartref ym Mlaendulais yn 2020.

Mae Jessica, sy’n fam i ddau o blant, yn dweud bod y digwyddiad trawmatig hwn wedi newid ei bywyd, ac mae’n diolch i’w Phrentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arwain a Rheoli Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant gan ACT Training am ei hannog i ffynnu.

Jessica Williams, Prentis Uwch y Flwyddyn 2024

“Rydw i wedi mynd o un pegwn i’r llall, o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd, i ddod yn arweinydd meithrinfa llwyddiannus,” meddai Jessica. Mae’n anhygoel, ond mae wedi bod yn daith anodd.”

Aeth gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn i Needle Rock, busnes clustogwaith llwyddiannus a sefydlwyd gan Dr Ali J. Wright yn Llanrhystud, ger Aberystwyth yn 2013.

Mae Ali yn gyn-arolygydd iechyd planhigion yn Llywodraeth y DU, ac mae hi bellach yn meithrin ei phrentisiaid ei hun ar ôl troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes sy’n datblygu, sydd bellach yn cyflogi pedwar gweithiwr.

Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i ddarparu fframwaith Prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn Sgiliau Clustogwaith Uwch.

Mae dau brentis cyntaf Needle Rock wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu ac maent wedi dechrau Prentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes gyda Myrick Training.

Enillwyd gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn gan Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi cyflwyno rhaglen brentisiaeth arloesol i yrwyr trenau mewn cydweithrediad â’r corff dyfarnu EAL a’r darparwr hyfforddiant Coleg y Cymoedd. Mae’r cwmni yn cyflogi 189 o brentisiaid ar draws 12 maes o’r busnes a darperir prentisiaethau gydag ALS Training.

Aeth gwobr Doniau’r Dyfodol i’r prentis uwch Heledd Roberts, a ddisgrifiwyd fel “chwa o awyr iach” ers ymuno â’r tîm prysur yn FUW Insurance Services Ltd dair blynedd yn ôl.

Ymunodd Heledd, sy’n 24 oed o Gaerfyrddin, â’r brocer yswiriant amaethyddol arbenigol yn ystod y pandemig pan helpodd i ymdrin â sawl swyddfa ar draws y busnes.

Oherwydd ei brwdfrydedd i ddysgu ac ysgogi eraill, mae wedi ei dyrchafu i fod yn brif swyddog trin cyfrifon yn y Gogledd ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn y swyddfa yn Rhuthun.

Cwblhaodd Heledd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol, gyda’r ddwy brentisiaeth yn cael eu darparu gan ALS Training.

Enillwyr eraill y gwobrau oedd:

Prentis Sylfaen y Flwyddyn yw Gwynfor Jones, 18 oed o Dreherbert, sy’n gweithio yn Croeso i’n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn Rhondda Fawr Uchaf sy’n cysylltu trigolion â natur drwy’r darparwr hyfforddiant Coleg Penybont.

Prentis y Flwyddyn yw Laura Chapman, 21 oed, sy’n gweithio i Motonovo Finance yng Nghaerdydd, sy’n cael ei hyfforddi gan ALS Training. Mae angerdd dros ddysgu wedi trawsnewid bywyd Laura ac mae hi wedi mynd o fod yn berson ifanc swil i fod yn arweinydd tîm.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yw TRJ Ltd, Rhydaman a’i ddarparwr hyfforddiant yw Coleg Sir Gâr, gan weithio ochr yn ochr ag Academi Sgiliau Cymru Grŵp Colegau NPTC a Choleg Penybont. Mae trydedd genhedlaeth teulu bellach yn rhedeg busnes adeiladu llwyddiannus a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones ym 1935. 89 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r cwmni yn cyflogi 160 o bobl, gan gynnwys 16 o brentisiaid.

Aeth gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sydd wedi cofrestru bron i 900 o bobl i Academi Brentisiaethau ers 2018. Mae’r bwrdd yn meithrin gallu proffesiynol ei staff presennol, gan recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd gyda chymorth y prif ddarparwr hyfforddiant ACT Training, gan weithio ochr yn ochr â Talk Training, Educ8, ALS Training a Choleg Caerdydd a’r Fro.

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn yw Anne Reardon-James, 46 oed o Gaerffili, sy’n gweithio i Panda Education & Training ac sy’n darparu Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu mewn partneriaeth ag ALS Training. A hithau’n gweithio tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, mae Anne yn cael ei disgrifio gan ei chyflogwr fel “ymgorfforiad o ddysgu gydol oes”, gan rannu ei gwybodaeth i ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr.

Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Hoffwn longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.

“Mae’n bwysig arddangos eu cyflawniadau gan fod hynny’n ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog rhagor o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”

Dywedodd Christine Bissex-Foster, Cadeirydd y Panel Beirniadu: “Gyda dros 180 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, mae’n fraint gweld bod dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn parhau i ragori yn Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

“Mae’r ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r potensial eithriadol sydd yng Nghymru; maent o safon uchel iawn. Mae’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi sefydlu meincnod newydd ar gyfer addysg alwedigaethol yng Nghymru, a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran. Hoffwn ddiolch hefyd i’r panel beirniadu ymroddedig sy’n rhoi o’u hamser ac yn rhannu eu harbenigedd bob blwyddyn.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Hoffwn longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r holl enillwyr. Mae straeon fel hyn yn dangos yr effaith fawr y gall prentisiaethau ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i swyddi sy’n rhoi boddhad iddynt a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Byddant yn rhan hanfodol o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.

Y rhai eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 oedd:

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Chelsea Fethney o Portmead, Abertawe sy’n gweithio i Aspire Art of Hair yn Abertawe ac yn cael ei hyfforddi gan Work Based Training Agency.

Prentis y Flwyddyn: Eleri Davies o Lanbadarn Fawr, Aberystwyth sy’n gweithio i Barcud ac a oedd yn cael ei hyfforddi gan Grŵp Llandrillo Menai; a Megan Christie o Georgetown, Tredegar sy’n gweithio i GE Aerospace Wales, Nantgarw ac yn cael ei hyfforddi gan Goleg y Cymoedd.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Ellen Somers o Gasnewydd sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru ac yn cael ei hyfforddi gan ALS Training, ac Amy Evans o Bencoed, Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio i Zimmer Biomet, Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael ei hyfforddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Doniau’r Dyfodol: Katie Trembath o Gwm Clydach sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n cael ei hyfforddi gan ALS Training, a Jacob Marshall o Bontypridd sy’n gweithio i Combined Engineering Services yng Nglyn Ebwy mewn partneriaeth ag Aspire – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac sy’n cael ei hyfforddi gan Goleg y Cymoedd.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks, Castell-nedd a’u darparwr hyfforddiant yw TSW Training, a Specsavers, Porthcawl a’u darparwr hyfforddiant yw Inspiro Learning.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Little Inspirations, Pontyclun a’u darparwr hyfforddiant yw Educ8 Training, ac Ysgol Maes y Felin, Treffynnon a’u darparwr hyfforddiant yw Achieve More Training.

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Whitbread Group PLC a’u darparwyr hyfforddiant yw Lifetime Training, un o bartneriaid Cambrian Training Company, a phs Group yng Nghaerffili a’u darparwr hyfforddiant yw ACT Training ynghyd ag ACT a Choleg y Cymoedd.

Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Abertawe a’u darparwr hyfforddiant yw Coleg Gŵyr Abertawe ac Academi Sgiliau Cymru Grŵp Colegau NPTC, a busnes Babcock Aviation yn RAF y Fali, Ynys Môn a’u darparwyr hyfforddiant yw Grŵp Llandrillo Menai a Hyfforddiant Arfon Dwyfor Training (WBL) Ltd.

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn: Sioned Roberts o Gaerdydd sy’n gweithio i Urdd Gobaith Cymru a Gareth Lewis, Hirwaun sy’n gweithio i ALS Training.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —