Phoebe’n goresgyn dyslecsia i ddisgleirio mewn cystadlaethau trin gwallt rhyngwladol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Phoebe McLavy sydd wedi troi diddordeb plentyndod yn yrfa mewn trin gwallt.

Mae Phoebe McLavy wedi goresgyn dyslecsia wrth wireddu ei breuddwydion mewn cystadlaethau trin gwallt rhyngwladol.

Dewiswyd Phoebe, 20 oed, sy’n gweithio yn salon Morgan Edward, Caerfyrddin, i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth WorldSkills International yn Kazan, Rwsia, ym mis Awst ac enillodd fedal efydd yno.

Yn ogystal, hi oedd pencampwr Salon Cymru 2018 ac enillodd fedal arian yn yr Her Sgiliau Fyd-eang yn Awstralia yn gynharach eleni.

Yn awr, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Phoebe wedi cwblhau Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwallt yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli ac mae wedi symud ymlaen i wneud Prentisiaeth erbyn hyn.

Ar ôl cael trafferth â dyslecsia yn yr ysgol, dewisodd Phoebe ddilyn gyrfa mewn trin gwallt, rhywbeth a fu’n freuddwyd ganddi er pan oedd yn blentyn, a dechreuodd weithio yn salon Morgan Edward pan oedd yn 16 oed.

“Rwy wrth fy modd yn fy ngwaith a gyda’r cyfleoedd rwy’n eu cael,” meddai. “Rwy’n gallu dathlu’r cryfderau sydd gen i o ganlyniad i’r dyslecsia – rwy’n meddwl am ffyrdd creadigol o fynd o gwmpas rhwystrau ac rwy’n awyddus i ysbrydoli pobl eraill.”

Cafodd Phoebe ei hannog gan ei salon a’i chynghorydd hyfforddiant, Andrea Leggatt, ac mae wedi cael profiad gwerthfawr o gystadlaethau ar lefel genedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol. “Fyddwn i erioed wedi breuddwydio am wneud hyn ond rwy wedi magu hyder ac, yn bwysicaf oll, rwy wedi dod yn fwy medrus am drin gwallt,” esboniodd Phoebe.

Gan iddi ennill medal efydd yng nghystadleuaeth WorldSkills UK 2018 yn Birmingham, cafodd le yng ngharfan y Deyrnas Unedig ynghyd â hyfforddiant dwys y bu’n rhaid iddi ei ffitio o gwmpas ei gwaith yn y salon a’i phrentisiaeth.

Dywedodd Claire Mackerras, Pennaeth y Cwricwlwm yng Ngholeg Sir Gâr fod Phoebe yn brentis eithriadol oedd yn arbennig o gydwybodol. “Er bod ganddi ddyslecsia, mae wedi dysgu goresgyn rhwystrau a gwireddu ei breuddwydion a’i huchelgeisiau,” meddai.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Phoebe a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —