Pobl ifanc o Gaerffili yn wynebu’r Her ac yn anelu at ennill gwobr o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

Tîm Quit & Sav£ o Y Coleg, Ystrad Mynach (o’r chwith) Kay Coombes, Demi Barnes, Amy Kedward, Bethan Phillips, Elisha Toghill a Shayla Britton.

Her Arian am Oes Lloyds TSB yn dathlu Sgiliau Arian Pobl Ifanc o’r Ardal

Mae tîm o bobl ifanc 16 i 18 oed o Gaerffili yn gobeithio ennill gwobr o fri ar ôl plesio’r beirniaid yn rownd gyntaf Her Arian am Oes Lloyds TSB, sef cystadleuaeth i hybu gwell sgiliau rheoli arian.

Mae’r myfyrwyr o Y Coleg, Ystrad Mynach yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 23 Ebrill lle byddant yn cyflwyno’u prosiect Quit and Sav£ ar gyfer Her Arian am Oes. Ym mis Rhagfyr, roedd y prosiect yn un o 250 ledled y Deyrnas Unedig i gael grant o £500 ac, ers hynny, mae’r criw ifanc wedi rhoi eu cynllun ar waith fel arbenigwyr arbed arian trwy ddangos i bobl faint o arian y gallan nhw ei arbed trwy smygu llai neu roi’r gorau iddi’n gyfan gwbl.

Dywedodd Demi Barnes, 18 oed, o Quit and Sav£: “Rwy wedi mwynhau cymryd rhan yn Her Arian am Oes ac rwy’n bwriadu cymryd rhan y flwyddyn nesaf eto.”

Bydd Quit and Sav£ yn ymuno â rhestr fer o bum tîm o Gymru y mae eu prosiectau rheoli arian yn cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Dywedodd noddwr y tîm, Kelly Watkins, Cydlynydd SuCCEED yn Y Coleg, Ystrad Mynach: “Mae’r dysgwyr wedi mwynhau eu hunain yn ofnadwy wrth gymryd rhan yn Her Arian am Oes. Mae wedi bod yn gyfle gwych i feithrin eu sgiliau a datblygu eu hyder.”

Ar ddiwrnod rownd derfynol Gymreig Her Arian am Oes, bydd y timau’n cyflwyno’u prosiectau i banel o feirniaid a bydd y tîm buddugol yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Fawreddog y Deyrnas Unedig yn Llundain ar 23 Mai. Os mai Quit and Sav£ fydd yr enillydd cenedlaethol, bydd y tîm yn cael £1,000 i’w roi i elusen o’i ddewis a bydd pob aelod yn cael taleb siopa £50.

Meddai Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i reoli eu harian yn dda trwy gefnogi eraill â’r un sgiliau yn union. Dyma ail flwyddyn yr Her ac mae safon y prosiectau cystal eleni eto. Y peth mwyaf trawiadol yw’r ffordd greadigol ac angerddol y mae’r bobl ifanc yn mynd ati i roi cig ar asgwrn eu syniad gwreiddiol er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am brosiect Quit and Sav£ yn rownd derfynol Cymru ac yn dymuno’n dda iddyn nhw.”

Bydd y tîm buddugol yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig ar 23 Mai yn ennill £2,500 i elusen o’i ddewis, talebau siopa gwerth £100 i bob aelod a mentor o’r Lloyds Banking Group. Yn ogystal, bydd y gwahoddedigion ar y noson yn cael dewis enillydd Gwobr y Bobl.

Mae Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes sy’n bartneriaeth unigryw rhwng y Lloyds Banking Group a phartneriaid yn y sector addysg bellach ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf dyfeisgar a llwyddiannus o wella sgiliau rheoli arian pobl ifanc, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r timau rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu cymunedol i oedolion.

Y prosiectau eraill sydd yn rownd derfynol Cymru yw: Grow and Save o ITEC Training Solutions, sef prosiect cymunedol sy’n annog pobl i dyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau er mwyn arbed arian; Sk8 Swap Shop o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin, sy’n ceisio helpu pobl i reoli eu harian trwy gynllun trwco, gan wahodd aelodau’r gymuned i ddigwyddiad i drwco pethau; Rampart Rebels o’r Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth yn Abertawe, sy’n ceisio rhoi gwybod i bobl am fenthycwyr didrwydded yn Abertawe; Swimming with the Sharks o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sy’n codi ymwybyddiaeth o beryglon cael benthyg arian gan fenthycwyr didrwydded ac yn rhoi gwybodaeth am wahanol ffyrdd o gael benthyg arian.

Os hoffech wybod rhagor am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter ar www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —